Mater - cyfarfodydd

Quarter 3 Council Plan 2018/19 Monitoring Report

Cyfarfod: 21/03/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 6)

6 Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor ar gyfer 2018/19 pdf icon PDF 131 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad i ddangos y cynnydd sydd wedi’i fonitro ar gyfer Chwarter 3 (Hydref i Ragfyr 2018) 2018/19 ar gyfer y flaenoriaeth ‘Cyngor sy’n Dysgu’ sy’n berthnasol i’r Pwyllgor. Tynnwyd sylw at feysydd canlynol yr adroddiad:-

 

  • Soniodd yr Aelod Cabinet am gyfarfod cenedlaethol diweddar, yno codwyd y cwestiwn am ddiwrnodau hyfforddiant staff ac roedd yn hapus iawn â’r newyddion hyn. Er y cydnabyddir yr effaith ar rieni yn gorfod canfod gofal plant am ddiwrnod ychwanegol, roedd y cyfle i staff addysgu gael y diwrnod hwn gyda’i gilydd yn amhrisiadwy;
  • Roedd y Grant Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig yn dal heb ei ddatrys ac roedd yn parhau i fod yn risg;
  • Roedd Derbyniadau Ysgol ar gyfer mis Medi 2019 wedi dechrau ond roedd yr angen am hyblygrwydd yn parhau er mwyn delio â chyfnodau prysur o ran derbyniadau; a
  • Threfnwyd gweithdy ar waith atgyweirio a chynnal a chadw ysgolion ar 12 Ebrill ond cyhoeddwyd yn ddiweddar y byddai Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyllid ar gael i Awdurdodau Lleol er mwyn i ysgolion gefnogi eu rhaglenni cyfalaf. Disgwylir am fwy o wybodaeth.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y diwrnod hyfforddiant staff ychwanegol i drafod y cwricwlwm newydd a oedd yn amhrisiadwy i ysgolion gydweithio ac ystyried yr arferion gorau. Cytunodd y Prif Swyddog gan ddweud y byddai’r Gweinidog yn hoffi gweld awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd yn rhanbarthol i sefydlu arfer orau.

 

Croesawodd y Cadeirydd yr arian a gynigiwyd ar gyfer atgyweiriadau ysgol ond ychwanegodd nad oedd y derbyniadau cyfalaf yno. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai’r cyllid incwm yn galluogi’r Cyngor i dalu am rai costau a oedd eisoes wedi'u hysgwyddo mewn perthynas â gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ac yna byddai’r arian hynny ar gael i’w ail-fuddsoddi.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Tudor Jones ynghylch y gallu i gynyddu capasiti mewn ysgol lle mae uno ag ysgol arall wedi’i ystyried, dywedodd y Prif Swyddog, drwy gyfuniad o gyllid grant dynodedig a’r cyllid gan Lywodraeth Cymru, y byddai modd mynd i’r afael â hyn.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Patrick Heesom at yr adroddiad brawychus diwethaf a sut yr oeddem yn ymdrin â phobl ifanc, yr ystafell dosbarth, y gymdeithas ac yn 1.09 sefydlu cyngor yr ifanc, adfywio rhai o’r cyfleoedd i bobl ifanc, roedd y Gwasanaeth Ieuenctid o bwysigrwydd mawr ac yn hynod werthfawr. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod y Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig yn symudol ac yn hyblyg wrth i dîm y rheng flaen ymweld â chymunedau er mwyn mynd i’r afael â phroblemau cyffuriau ac alcohol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.