Mater - cyfarfodydd

Quarter 3 Council Plan 2018/19 Monitoring Report

Cyfarfod: 13/03/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 64)

64 Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor ar gyfer 2018/19 pdf icon PDF 127 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2018/19

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bernie Attridge adroddiad i roi crynodeb o berfformiad ar gyfer Chwarter 3 (Hydref i Rhagfyr 2018) sefyllfa 20018/19 ar gyfer blaenoriaethau Cynllun y Cyngor ‘Cyngor Cefnogol’ a ‘Cyngor Uchelgeisiol’ sy’n berthnasol i’r Pwyllgor.    

 

Dywedodd y Prif Swyddog bod adroddiad monitro Chwarter 3 yn adroddiad cadarnhaol ac yn dangos bod 92% o weithgareddau yn gwneud cynnydd da gydag 85% yn debyg o gyflawni'r canlyniadau a ddymunir.   Roedd 67% o’r dangosyddion perfformiad wedi diwallu neu ragori ar eu targedau.  Roedd risgiau yn cael eu rheoli gyda’r mwyafrif yn cael eu hasesu fel cymedrol (61%) a mân/ansylweddol 22%.   Roedd yr adroddiad yn eithriad yn seiliedig ar adroddiad ac felly yn canolbwyntio ar y meysydd oedd yn tanberfformio.

 

Roedd y Cynghorydd Attridge yn adrodd ar y dangosyddion perfformiad canlynol oedd yn dangos statws Coch Melyn Gwyrdd ar gyfer perfformiad presennol yn erbyn targed:

 

·         Nifer cyfartalog y diwrnodau calendr a gymerwyd i ddarparu Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl

·         bydd lefelau dyledion yn codi os nad yw tenantiaid yn gallu fforddio talu eu rhent neu dreth y cyngor

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at dudalen 166 o’r adroddiad a soniodd am effaith Credyd Cynhwysol a’r caledi a achoswyd i nifer o unigolion a theuluoedd oherwydd yr amser a gymerir i brosesu ceisiadau.   Dywedodd bod angen rhoi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) am y pryderon. 

 

Roedd y Rheolwr Budd-Daliadau yn cydnabod y pwyntiau a wnaed ac yn egluro bod gwaith wedi dechrau i nodi effaith Credyd Cynhwysol ar Denantiaid y Cyngor a’u cyfrifon rhent.    Dywedodd fod tîm wedi gweithio gyda thenantiaid gynted â phosibl i nodi ac ymyrryd yn fuan (os yn briodol) i atal problemau rhag codi a rhoi mwy o siawns o’r cyfrif rhent yn dod yn ôl o dan reolaeth ac allan o ôl-ddyledion.   Hefyd dywedodd fod gan y Cyngor bellach statws ‘Partner y Gellir Ymddiried ynddo’ gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau oedd yn golygu bod prosesau a llif gwybodaeth a thaliadau yn symlach ac yn awtomataidd.   Roedd casgliadau treth y cyngor yn parhau dan bwysau.    Dywedodd y Rheolwr Budd-Daliadau y byddai adroddiad diweddaru yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhelir ar 26 Mehefin 2019.

 

 Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson am yr anawsterau a brofwyd gan bobl ar incwm isel a’r angen i godi ymwybyddiaeth o’r Cynllun Gostyngiad yn Nhreth y Cyngor ac adolygu sut yr oedd yn cael ei hysbysebu.    Mewn ymateb, cytunodd y Rheolwr Budd-Daliadau i adolygu gwerth hysbysebu’r cynllun yn unol ag ymgyrch Llywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi Adroddiad Monitro 2018/19 Cynllun y Cyngor Chwarter 3.