Mater - cyfarfodydd
Capital Strategy including Prudential Indicators 2019/20 – 2021/22
Cyfarfod: 19/02/2019 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 10)
10 Strategaeth Gyfalaf gan gynnwys Dangosyddion Darbodus 2019/20 – 2021/22 PDF 72 KB
Pwrpas: Cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf gan gynnwys ystod o Ddangosyddion Darbodus sy’n gysylltiedig â’r Rhaglen Gyfalaf dros y cyfnod 3 blynedd 2019/20 – 2021/22
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Prudential Indicators 2019/20 – 2021/22, eitem 10 PDF 254 KB
- Enc. 2 for Prudential Indicators 2019/20 – 2021/22, eitem 10 PDF 412 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Strategaeth Gyfalaf gan gynnwys Dangosyddion Darbodus 2019/20 – 2021/22
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad ar gyfer cyflwyno’r Strategaeth Gyfalaf 2019/20 - 2021/22 a oedd wedi’i diweddaru i’w chymeradwyo, ynghyd ag ystod o Ddangosyddion Darbodus sy’n gysylltiedig â’r Rhaglen Gyfalaf dros y cyfnod o 3 blynedd 2019/20 - 2021/22. Rhoddodd wybodaeth gefndirol ac adroddodd y cafodd y Strategaeth ei hystyried mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2019. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol nad oedd unrhyw faterion penodol i’w hadrodd i’r Cyngor.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo Strategaeth Gyfalaf 2019/20 – 2021/22;
(b) Bod y Cyngor yn cymeradwyo:-
- Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2019/20 – 2021/22 fel y manylir o fewn Tablau 1, a 4 – 7 sy’n cynnwys y Strategaeth Gyfalaf a adroddwyd i’r Cabinet.
- Awdurdod dirprwyedig i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflawni symudiadau rhwng y terfynau a gytunwyd ar wahân o fewn y terfyn awdurdodedig ar gyfer dyledion allanol a’r terfyn gweithredol ar gyfer dyledion allanol (Tabl 6 o’r Strategaeth Gyfalaf a adroddwyd i’r Cabinet).