Mater - cyfarfodydd

Wales Audit Office (WAO) Audit Plan 2019

Cyfarfod: 27/03/2019 - Pwyllgor Archwilio (eitem 59)

59 Cynllun Archwilio Swyddfa Archwilio Cymru 2019 pdf icon PDF 77 KB

Mae Swyddfa Archwilio Cymru, sy’n archwiliwr allanol y Cyngor, wedi paratoi cynnal archwiliad ar gyfer 2019 i’r Cyngor a’r Cronfa Bensiynau Clwyd, sydd yn gosod eu gwaith archwilio arfaethedig ar gyfer y flwyddyn ynghyd ag amserlenni, costau a’r timau archwilio sydd yn gyfrifol am gyflawni’r gwaith.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Mr Mike Whiteley Gynllun Archwilio Swyddfa Archwilio Cymru 2019 a oedd yn nodi’r trefniadau a’r cyfrifoldebau ar gyfer y gwaith archwilio arfaethedig ar gyfer y Cyngor.

 

Wrth grynhoi'r prif bwyntiau, tynnodd sylw at y risgiau archwiliad ariannol allweddol ar reolwyr yn diystyru rheolyddion fel risg gyffredinol, amcangyfrifiadau sylweddol a oedd yn gymhleth o ran eu natur ac yn amodol ar ddyfarniadau a chyflwyniad safonau cyfrifeg newydd lle'r oedd deialog agored gyda swyddogion y Cyngor yngl?n â’r paratoadau. Nid oedd newid arfaethedig i’r ffioedd archwilio a oedd yn cynnwys gwaith ar y Cydbwyllgor Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru. Fel yn y blynyddoedd blaenorol, roedd y Cynllun Archwilio yn nodi’r rheolyddion a oedd ar waith i liniaru’r bygythiad annibynnol posibl a nodwyd ym mharagraff 30. Gwerthfawrogwyd y Swyddogion Cyllid am gynorthwyo cydweithwyr Swyddfa Archwilio Cymru â chyflawni’r gwaith yn unol â’r amserlen arfaethedig.

 

Yn ystod trosolwg o’r rhaglen archwilio perfformiad, tynnodd Mr Gwilym Bury sylw at feysydd cyffredin megis cynaliadwyedd ariannol ar draws cynghorau Cymru a gwaith penodol ar leihau ôl-ddyledion rhent yn dilyn newidiadau diwygio'r gyfundrefn les a oedd yn broblem benodol ar gyfer Sir y Fflint. Rhoddwyd diweddariad hefyd ar statws y gwaith archwilio perfformiad parhaus o amlinelliad archwiliad y flwyddyn flaenorol.

 

Wrth drafod y rhaglen archwilio perfformiad, siaradodd y Prif Weithredwr am symud y ffocws ar faterion lleol a'r cynnig arfaethedig i gael gwared ar rwymedigaethau’r cyngor dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. Croesawyd y gwaith archwilio ar ôl-ddyledion rhent i dynnu sylw at ffactorau sy’n cyfrannu a byddai’r prosiect ar Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff T? yn darparu adborth annibynnol ar ansawdd mynediad. Roedd protocol mewnol y Cyngor (fel nodwyd mewn eitem ddiweddarach yn y rhaglen) yn darparu mecanwaith ar gyfer rhoi gwybod am ganlyniadau adroddiadau rheoleiddio.

 

Wrth drafod y rhaglen archwilio ariannol, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai gofynion y terfyn amser statudol cynharach yn cael eu cwrdd yn dilyn y paratoadau a roddwyd ar waith y llynedd.  O ran y risgiau a nodwyd yn flaenorol, cyflwynodd y wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau pontio o fewn y tîm cyn dychweliad y Rheolwr Cyllid. Cydnabuwyd cyfraniadau’r Rheolwr Cyllid Dros Dro yn ystod y cyfnod hwn gan y Prif Weithredwr ac Aelodau’r Pwyllgor a groesawodd ei benodiad i weithio ar gyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd.

 

Soniodd y Cynghorydd Dunbobbin am y dyletswyddau a osodwyd ar y Cyngor gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ystod adeg o galedi ariannol. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai'r gwaith cenedlaethol ar gynaliadwyedd ariannol yn tynnu sylw at y cyfrifoldebau ar Lywodraeth Cymru a oedd ei hun yn ddarostyngedig i rwymedigaethau’r un ddeddfwriaeth.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Dolphin a oedd y ffi archwilio yn cynrychioli gwerth am arian gan na allai barn Swyddfa Archwilio Cymru roi sicrwydd llwyr. Esboniodd Mr Whiteley fod y dull i asesu risg ar waith sampl yn arfer safonol ar gyfer archwilwyr allanol ac nad oedd modd rhoi sicrwydd llwyr heb asesu pob trafodyn unigol.

 

Nododd y Prif Swyddog fod y ffi archwilio yn ffafriol o’i chymharu â chynghorau eraill yng  ...  view the full Cofnodion text for item 59