Mater - cyfarfodydd

Wales Audit Office (WAO) – Annual Audit Letter 2017/18

Cyfarfod: 15/02/2019 - Pwyllgor Archwilio (eitem 46)

46 Swyddfa Archwilio Cymru - Llythyr Archwilio Blynyddol 2017/18 pdf icon PDF 69 KB

Mae’r llythyr yn crynhoi’r prif negeseuon sy’n codi o gyfrifoldebau statudol Archwilydd Cyffredinol Cymru dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, a chyfrifoldebau adrodd dan Cod Ymarfer Archwilio ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y Llythyr Archwilio Blynyddol a dderbyniwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, a oedd yn nodi’r materion allweddol yn deillio o archwiliad 2017/18, yn unol â gofynion Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

Cadarnhaodd Matthew Edwards o Swyddfa Archwilio Cymru fod gan y Cyngor drefniadau priodol ar waith er mwyn sicrhau cynildeb, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio’i adnoddau, ac wedi bodloni’r gofynion statudol o ran gwelliant parhaus.  Byddai adroddiad yn dod ym mis Mawrth yngl?n â chanlyniad y gwaith a gwblhawyd ynghylch ardystio hawliadau grant ac enillion.  Roedd maint yr her ariannol yr un fath ymysg awdurdodau eraill yng Nghymru, ac roedd hynny’n dangos fod angen manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gynhyrchu incwm a darparu gwasanaethau mewn ffyrdd gwahanol.

 

Gan gydnabod y ‘diffyg cyllid blynyddol’ gofynnodd y Cynghorydd Peers am farn ynghylch sefyllfa’r Cyngor yn y dyfodol.  Soniodd Matthew Edwards am y gwaith oedd ar y gweill i sicrhau cynaladwyedd ariannol gydol y sector cyhoeddus yng Nghymru, a byddai’n dod ag adroddiad ar y canfyddiadau lleol gerbron y Pwyllgor wedi cwblhau’r gwaith.  Roedd Swyddfa Archwilio Cymru’n cyfathrebu’n gyson â swyddogion y Cyngor, a byddai’r Cynllun Archwilio ym mis Mawrth yn rhoi mwy o fanylion yngl?n â’r dull o asesu cynaladwyedd ariannol y Cyngor.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Woolley, esboniodd y swyddogion ei bod yn anodd cymharu perfformiad Cynghorau o ran arbedion effeithlonrwydd wedi’u cynllunio.  Cytunodd Matthew Edwards i rannu dolen gyswllt at adroddiadau’r oedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi’u cyhoeddi’n ddiweddar yngl?n â sefyllfa ariannol cynghorau yng Nghymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r Llythyr Archwilio Blynyddol gan Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2017/18.