Mater - cyfarfodydd

Council Fund Budget 2019/20 – Third and Closing Stage

Cyfarfod: 29/01/2019 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 89)

89 Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2019/20 – Y Trydydd Cam a'r Cam Clo pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Bod y Cyngor yn derbyn ac yn ystyried argymhelliad y Cabinet ar gyfer cydbwyso'r gyllideb ar gyfer 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar Gyllideb Cronfa'r Cyngor 2019/20 – y Trydydd Cam a'r Olaf gydag adroddiad y Cabinet 22 Ionawr 2019 wedi ei atodi i’r adroddiad. Roedd gwybodaeth ychwanegol wedi ei gylchredeg i Aelodau’r diwrnod blaenorol, yn dilyn cais yn y Cabinet, ar y gwasanaethau nad ydynt yn orfodol a allai fod mewn perygl os nad oedd unrhyw gyllid ychwanegol ar y ffordd gan Lywodraeth Cymru a Threth y Cyngor sy'n gyfatebol i'r gwasanaethau hynny.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ei bod yn ddyletswydd ar y Cyngor i osod cyllideb gyfreithlon a chytbwys.Eglurodd y pwysigrwydd o beidio â gorlwytho’r gyllideb gyda risgiau ac y byddai’n rhaid i unrhyw gynigion a gâi eu cyflwyno fod ag amserlenni realistig a bod modd eu gweithredu gyda chyllid digonol wedi ei roi naill ochr ar gyfer y prif risgiau. Gorffennodd drwy sôn am yr angen i Aelodau wrando ar gyngor rolau statudol y Swyddog Adran 151 a'r Prif Weithredwr wrth iddynt gynghori'r Cyngor.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad oedd yn ymdrin â’r meysydd canlynol:

 

·         Gosod cyllideb gyfreithlon a chytbwys;

·         Rhagolwg wedi ei ddiweddaru ar gyfer 2019/20;

·         Cam 1 – Datrysiadau Cyllideb Corfforaethol;

·         Cam 2 - Cynigion Portffolio Cynllun Busnes;

·         Setliad Terfynol;

·         Newidiadau eraill i ragolygon 2019/20;

·         Effaith cyhoeddiadau grant;

·         Crynodeb o’r rhagolygon diwygiedig;

·         Yr opsiynau a’r posibiliadau sydd ar ôl;

·         Cronfeydd wrth gefn a Balansau;

·         Mathau o gronfeydd wrth gefn;

·         Rheoli’r flwyddyn 2019/20;

·         Lefel ddarbodus o gronfeydd wrth gefn ar gyfer 2019/20;

·         Treth y Cyngor;

·         Cynnydd posib mewn Treth y Cyngor yng Nghymru 2019/20;

·         Cymaryddion Treth y Cyngor (Band D) 2018/19;

·         Cymaryddion dangosol Treth y Cyngor 2019/20;

·         Cymaryddion dangosol Treth y Cyngor Cymru 2019/20;

·         Cyllidebau Ysgolion a Gofal Cymdeithasol;

·         Cyllid ysgolion 2019/20;

·         Cyllid Gofal Cymdeithasol 2019/20;

·         Safbwyntiau proffesiynol;

·         Rhagolygon y dyfodol;

·         Rhagolygon y tymor canolig;

·         #cefnogigalw;

·         Y diweddaraf o gyfarfod yr ACau a’r ASau;

·         Senarios cyllideb; a’r

·         Camau nesaf ac amserlenni.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr opsiynau sydd ar ôl i sicrhau cyllideb gyfreithlon a chytbwys wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad Cabinet.Roedd y posibilrwydd am ostyngiadau pellach o ran gwasanaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol hon ar unrhyw raddfa yn hesb ac roedd y datganiadau gwytnwch portffolio a oedd yn dangos y risgiau i gapasiti gwasanaethau a pherfformio unrhyw ostyngiadau pellach i'r gyllideb wedi eu derbyn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a'r Cabinet. Roedd nifer o weithdai i Aelodau hefyd wedi eu cynnal.Gwnaeth sylwadau ar oblygiadau'r awgrymiadau posib yn y cyfnod hwyr hwn gan gynnwys y berthynas rhwng y gweithlu ac undebau llafur.Byddai unrhyw benderfyniadau newydd yn cymryd amser i’w gweithredu ac ni fyddent yn gallu arwain at arbedion ar unwaith na rhai digonol ar gyfer blwyddyn gyllideb 2019/20 i’w hystyried o ran cydbwyso'r gyllideb.

 

Cafwyd manylion am sefyllfa ceisiadau arbennig a wnaed i Lywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer cymorth ariannol yn yr adroddiad.Y tu hwnt i ymyrraeth ariannol gan LlC yr unig opsiynau oedd ar ôl o ran y gyllideb i gydbwyso'r gyllideb oedd incwm Treth y Cyngor a  ...  view the full Cofnodion text for item 89