Mater - cyfarfodydd
Welsh in Education Strategic Plan (WESP)
Cyfarfod: 31/01/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 37)
37 Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg PDF 102 KB
Pwrpas: Rhoi diweddariad i’r Aelodau ar gynnydd Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad ar gynnydd y Cyngor o ran y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg i gyrraedd y targedau a chyflawni’r amcanion a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, cynyddu nifer y disgyblion sy’n derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac i wella safonau cyrhaeddiad disgyblion Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith.
Mae fforwm amlasiantaethol yn gyfrifol am fonitro a gweithredu’r cynllun hwn, ac mae Sian Hilton yn darparu capasiti ychwanegol dros dro yn y Cyngor. Mae’r fforwm yn adolygu cynnydd tri is-gr?p sy’n canolbwyntio ar safonau, y ddarpariaeth a’r gweithlu. Fel rhan o’r adroddiad, tynnwyd sylw at lwyddiant y Cyngor wrth ddenu buddsoddiad cyfalaf gan Lywodraeth Cymru ar gyfradd ymyrraeth o 100% i gynyddu capasiti Ysgol Glanrafon a darparu gwasanaeth blynyddoedd cynnar cofleidiol. Amlygwyd nifer o lwyddiannau allweddol wrth gyrraedd targedau Llywodraethu Cymru ar gyfer 2018-19.
Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am yr adroddiad a chroesawodd y cynnydd hyd yma.
Yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Fforwm, siaradodd y Cyng. Roberts am ymrwymiad y Cyngor i hyrwyddo addysg plant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ac i ddatblygu dwyieithrwydd mewn ysgolion Saesneg. Cyfeiriodd at effaith gadarnhaol yr Urdd o ran annog pobl ifanc i gystadlu drwy gyfrwng y Gymraeg a phwysleisiodd bwysigrwydd datblygu’r iaith y tu allan i’r ysgol/gweithle. Dywedodd y byddai’n rhaid cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg mewn ardaloedd fel Sir y Fflint er mwyn cyrraedd targed uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Aeth ymlaen i ganmol Ysgol Gwenffrwd yn Nhreffynnon am ganlyniadau ei harolwg Estyn diweddar.
Yn dilyn pryderon Rebecca Stark ynghylch y seilwaith ffordd o gwmpas Ysgol Glanrafon, cynghorodd y Prif Swyddog fod swyddogion yn ymwybodol o’r problemau ac y bydd asesiad o effaith traffig yn ystyried rheoli llif y traffig a diogelwch disgyblion.
Mewn ymateb i sylwadau’r Cyng. Smith, dywedodd y Cyng. Roberts a’r Prif Swyddog fod sylwadau wedi’u gwneud ar yr angen i Lywodraeth Cymru ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer twf a datblygiad ysgolion Cymraeg llai wrth iddynt gael eu sefydlu.
Tra bod David Hÿtch yn croesawu canlyniadau cadarnhaol dysgwyr ail iaith mewn ysgolion Saesneg, roedd yn pryderu ynghylch effaith y newidiadau pellach yn y cwricwlwm ar ysgolion uwchradd Saesneg.
Roedd Rebecca Stark hefyd yn teimlo y gall y lleihad mewn dewisiadau Cymraeg yn yr ysgol uwchradd arwain at ddisgyblion yn dewis peidio ag astudio iaith arall.
Galwodd y Cyng. Gladys Healey ar ddiwydiannau i wneud mwy i gynnwys y Gymraeg yn y gweithle.
Dyfynnodd y Cyng. Mackie o adroddiad a oedd yn amlygu’r anawsterau a brofir gan ysgolion uwchradd wrth recriwtio athrawon sy’n medru’r Gymraeg.
Roedd y Cyng. Jones yn croesawu’r cynnydd wrth weithredu’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a soniodd am dwf y Gymraeg mewn ardaloedd trefol. Diolchodd i’r Aelodau am gymryd rhan yn yr arolwg diweddar a gynhaliwyd ar draws y Cyngor, a oedd yn dangos cynnydd o ran y Gymraeg.
Roedd y Prif Swyddog yn cydnabod pryderon megis effaith llai o ddewisiadau ar gyfer disgyblion a’r buddsoddiad sydd ... view the full Cofnodion text for item 37