Mater - cyfarfodydd

Council Tax setting for 2019-20

Cyfarfod: 28/02/2019 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 115)

115 Treth y Cyngor ar gyfer 2019-20 pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:        Gosod taliadau Treth y Cyngor ar gyfer 2019-20 fel rhan o strategaeth cyllideb ehangach y Cynghorau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Dirprwy Swyddog Monitro’r adroddiad i osod taliadau Treth y Cyngor yn ffurfiol a phenderfyniadau statudol cysylltiedig ar gyfer 2019/20 fel rhan o’r strategaeth gyllideb ehangach ar sail y penderfyniad a gymerwyd gan y Cyngor ar 19 Chwefror.

 

Siaradodd y Rheolwr Refeniw am y tri praesept ar wahân oedd yn gynwysedig yn nhaliadau Treth y Cyngor yn erbyn pob eiddo. Dywedodd mai’r cynnydd arfaethedig ym mhraesept Sir y Fflint oedd 8.75% (yn arwain at dâl o £1,280.68 ar gyfer eiddo Band D; cynnydd blynyddol o £103.08).  Adroddwyd cynnydd o 7.74% ar y praesept ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, ac atodwyd y gofynion praesept unigol ar gyfer y 34 o Gynghorau Tref a Chymuned drwy Sir y Fflint (cyfanswm cynnydd 2.13%) Roedd cyfanswm y swm a godwyd gan Dreth y Cyngor yn cynnwys cyfanswm praesept y Cyngor Sir - £82,369.496, cyfanswm praesept Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru - £17,886,558 a phraesept cyfun o £2,929,690 ar draws Cynghorau Tref a Chymuned.

 

Yn unol  â materion gweithdrefnol eraill, gofynnwyd i Aelodau gymeradwyo parhad cynllun Premiwm Treth y Cyngor a’r arfer fod swyddogion penodedig yn arwain achosion cyfreithiol ar ran y Cyngor.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr mai’r penderfyniad oedd gosod Treth y Cyngor yn ffurfiol ar ôl cau’r broses gyllidebu ar gyfer 2019/20 yn y cyfarfod blaenorol. Byddai’r ffigurau penodol yn cael eu cynnwys ym miliau Treth y Cyngor ynghyd ag opsiynau talu mewn rhandaliadau. Oherwydd cyfyngiadau statudol ar wybodaeth sydd ar filiau Treth y Cyngor, eleni byddai taflen wybodaeth ffeithiol gyda lluniau ar gyfer y gyllideb yn egluro sut mae’r cyfanswm yn cael ei gyfrifo.

 

Wrth gynnig yr argymhellion, cyfeiriodd y Cynghorydd Aaron Shotton at y drafodaeth hir ar y gyllideb oedd wedi arwain at benderfyniad anodd, gan gydnabod yr angen i ddiogelu gwasanaethau ac ystyried effaith caledi yn y dyfodol. Croesawodd y daflen wybodaeth ffeithiol gyda lluniau a baratowyd gan swyddogion ac anogodd Aelodau i’w rhannu i helpu i ddeall y sefyllfa.

 

Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bernie Attridge.

 

Dywedodd y Cynghorydd Mike Peers nad oedd y cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor wedi’i gefnogi gan bob Aelod ac y gallai’r swm a wariwyd i adennill dyledion heb eu talu fod wedi cael ei ddefnyddio’n well tuag at y diffyg ariannol. O ran trydydd argymhelliad ar yr adroddiad, siaradodd am lefel Treth y Cyngor heb ei dalu oedd wedi’i hadrodd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gofynnodd am gamau gweithredu i wella cyfraddau casglu.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr mai dyled benthyciadau cyfalaf yn unig oedd y ddyled ac y byddai adroddiad ar gasglu Treth y Cyngor yn mynd gerbron Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones fod yr adroddiad yn rhoi mwy o fanylion am effaith y penderfyniad yngl?n â’r gyllideb ac y byddai pob band prisio’n cael ei osod yn uwch na £1,000 y flwyddyn, gan effeithio’n arbennig ar y rhai ar incwm is. Dywedodd fod y cynnydd arfaethedig o 8.75% ar gyfer praesept y Cyngor yr uchaf a osodwyd gan Sir  ...  view the full Cofnodion text for item 115