Mater - cyfarfodydd

Annual Review of the Code of Corporate Governance

Cyfarfod: 15/02/2019 - Pwyllgor Archwilio (eitem 48)

48 Adolygiad blynyddol o'r Cod Llywodraethu Corfforaethol pdf icon PDF 113 KB

Cadarnhau’r adolygiad o'r Cod Llywodraethu Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol adroddiad ar y Cod Llywodraethu Corfforaethol fel y’i diwygiwyd, a oedd eisoes wedi bod yn destun sesiwn briffio i’r Pwyllgor.  Câi’r adroddiad ei gyflwyno i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd.

 

Fel oedd yn arferol, diwygiwyd y Cod yn dilyn adolygiad gan y Gweithgor Llywodraethu Corfforaethol ac ymgynghoriad ag uwch-swyddogion.  Roedd a wnelo’r newidiadau pennaf â gweithio mewn partneriaeth, datblygu Aelodau a gwella’r cyswllt rhwng y Pwyllgor Archwilio a Chadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Cod Llywodraethu Corfforaethol fel y’i diwygiwyd i gael ei fabwysiadu fel rhan o Gyfansoddiad y Cyngor.