Mater - cyfarfodydd
Armed Forces Covenant Annual Report April 2017 - December 2018
Cyfarfod: 29/01/2019 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 93)
93 Adroddiad Blynyddol Cyfamod y Lluoedd Arfog 2017/18 PDF 113 KB
Pwrpas: Ardystio’r cynnydd positif a wnaed i gwrdd â Chyfamod y Lluoedd Arfog a chefnogi’r ymrwymiadau am welliant pellach a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cyfamod y Lluoedd Arfog cyn ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Armed Forces Covenant Annual Report 2017/18, eitem 93 PDF 4 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Blynyddol Cyfamod y Lluoedd Arfog 2017/18
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr Adroddiad Blynyddol Cyfamod y Lluoedd Arfog Ebrill 2017 – Rhagfyr 2018, sef ail adroddiad blynyddol Cyfamod Lluoedd Arfog Sir y Fflint.
Eglurodd y Swyddog Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu fod Cyfamod y Lluoedd Arfog wedi ei anelu at gydnabod yr aberth a wnaed gan gymuned y Lluoedd Arfog o fewn y Sir gan helpu i ddarparu cefnogaeth ar eu cyfer a’u teuluoedd i sicrhau nad oeddent yn wynebu anfantais o ganlyniad i wasanaeth milwrol.
Fel Pencampwr Lluoedd Arfog y Cyngor a Chadeirydd y gr?p llywio aml asiantaeth talodd y Cynghorydd Dunbobbin deyrnged i waith pawb fu'n rhan o hyn a chynnig yr adroddiad.
Diolchodd y Cynghorydd Peers i’r Cynghorydd Dunbobbin a'r gr?p llywio am gyflwyno cerrig coffa i gofio am ddau unigolyn o Sir y Fflint a dderbyniodd Groes Fictoria am eu dewrder yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf – Frederick Birks V.C. o Fwcle a Harry Weale V.C. o Shotton.
Awgrymodd y Prif Weithredwr fod adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Cyngor Sir yn y dyfodol pan dderbynnir y Wobr Aur, a chefnogwyd hynny.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y cynnydd cadarnhaol a wnaed i fodloni Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael ei nodi a bod yr ymrwymiadau ar gyfer gwelliant pellach yn cael eu cefnogi; a
(b) Bod Adroddiad Blynyddol Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael ei gymeradwyo cyn ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor.