Mater - cyfarfodydd
White Paper: Reform of Fire and Rescue Authorities in Wales
Cyfarfod: 17/01/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 78)
78 Papur Gwyn: Diwygio Awdurdodau Tan ac Achub Cymru PDF 85 KB
Pwrpas: Argymell ymateb i’r Papur Gwyn ar ddiwygio’r modd y llywodraethir ac yr ariennir Awdurdodau Tan yng Nghymru i gyfarfod y Cyngor ar 29 Ionawr.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Welsh Government White Paper: Reform of Fire and Rescue Authorities in Wales, eitem 78 PDF 694 KB
- Enc. 2 - Draft responses to consultation questions, eitem 78 PDF 61 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i ystyried ymatebion drafft i’r cwestiynau ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Cymru (LlC) dan y teitl ‘Diwygio awdurdodau tân ac achub yng Nghymru’. Byddai safbwynt y Pwyllgor yn cael ei adrodd i’r cyngor Sir ar 29 Ionawr er mwyn gallu cyflwyno ymateb ffurfiol erbyn dyddiad cau’r ymgynghoriad ar 5 Chwefror.
Eglurodd y Prif Weithredwr a Phrif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd tystiolaeth o’r angen i newid o fewn y Papur Gwyn a bod y Cyngor a Swyddfa Archwilio Cymru’n fodlon gyda threfniadau llywodraethu presennol. Rhoddwyd trosolwg o’r ymatebion a awgrymwyd ar y model ariannu, goblygiadau o ran aelodaeth a’r angen i Awdurdodau Tân ac Achub fod yn gyrff yn codi praespet yn hytrach na chodi cyfraniadau.
Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Jones a ddywedodd “os nad yw'r system wedi torri, nid oes angen ei thrwsio”. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Woolley. Cytunwyd y byddai’r sylw a wnaed gan y Cynghorydd Jones yn cael ei adlewyrchu yn yr ymateb.
PENDERFYNWYD:
Gan gynnwys safbwynt y Pwyllgor bod y model llywodraethu presennol yn gweithio ac yn gadarn ac felly na ddylid ei haddasu, bod yr ymatebion i’r cwestiynau yn Atodiad 2 o’r Adroddiad yn cael eu cymeradwyo gan y Cyngor fel ymateb ffurfiol Sir y Fflint i’r Papur Gwyn Diwygio awdurdodau tân ac achub yng Nghymru’. Yr unig newid y mae angen ei wneud yw ariannu, fel bod Awdurdodau Tân ac Achub yn gyrff codi praespet yn hytrach na chodi cyfraniadau.