Mater - cyfarfodydd
Officers Code of Conduct
Cyfarfod: 07/01/2019 - Pwyllgor Safonau (eitem 48)
48 Cod Ymddygiad Swyddogion PDF 80 KB
Pwrpas: Fel rhan o’r adolygiad treigl o’r Cyfansoddiad, mae angen i ni ystyried a oes angen unrhyw ddiwygiadau i’r Cod Ymddygiad i’w ddiweddaru.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Proposed amendments with tracked changes, eitem 48 PDF 180 KB
- Enc. 1a - Proposed amendments with tracked changes, eitem 48 PDF 297 KB
- Enc. 2 - Form for declaring interests, eitem 48 PDF 108 KB
- Enc. 2a - Form for declaring gifts, eitem 48 PDF 76 KB
Cofnodion:
Bu i’r Swyddog Monitro gyflwyno adroddiad ar God Ymddygiad Swyddogion fel rhan o adolygiad treigl o Gyfansoddiad y Cyngor. Bu iddo ddarparu eglurhad ar ddiwygiadau arfaethedig er mwyn rhoi arweiniad cliriach ac adlewyrchu newidiadau i swyddi a gwasanaethau’r Cyngor.
Bu i’r Pwyllgor gytuno ar y newidiadau ychwanegol canlynol:
· newid y teitl i ‘God Ymddygiad Cyflogeion’.
· Newid y gair ‘dylid’ i ‘rhaid’ yn y ddogfen drwyddi draw.
· Aralleirio paragraff 10.2 er mwyn adlewyrchu na fyddai caniatâd yn cael ei roi i ymgymryd a gwaith allanol am gyflog fyddai’n gorgyffwrdd a rôl sylfaenol y cyflogai ac y byddai angen mwy o ystyriaethau os nad dyna fyddai’r achos.
· Paragraff 10.3 i gyfeirio at ‘ddefnyddio’ cyfleusterau’r Cyngor a gohebiaethau a anfonir yn ogystal â rhai a dderbynnir.
· Ail frawddeg paragraff 11.14 i gyfeirio at geisio cyngor gan ‘eu’ Rheolwr.
· Cywiro’r gwall argraffyddol ym mhwynt bwled olaf adran 4 ffurflen Datganiad Cysylltiad Swyddogion.
· Ychwanegu ‘Adran’ i adran 1 datganiad Cynnig neu Dderbyn Rhodd/Lletygarwch Swyddogion a chynnwys ‘anfonwyd i’r gweithle’ yn y drydedd adran a sut y cynigwyd neu y derbyniwyd hynny.
Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Johnson, cytunodd y Swyddog Monitro y dylid ymgynghori â Chydbwyllgor Undebau Llafur Sir y Fflint ynghylch y dogfen adolygedig, a y dylid adrodd ar y deilliant i’r Pwyllgor Safonau.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig i’r canllawiau eglurhaol a’r ffurflenni yn y Cod Ymddygiad Swyddogion; a
(b) Chyflwyno’r Cod Ymddygiad Swyddogion diwygiedig ar gyfer ymgynghoriad i gyfarfod nesaf Cydbwyllgor Undebau Llafur Sir y Fflint ac adrodd yn ôl ar y deilliant i’r Pwyllgor Safonau.