Mater - cyfarfodydd
Review of the Council’s Planning Code of Practice.
Cyfarfod: 07/01/2019 - Pwyllgor Safonau (eitem 47)
47 Cod Ymarfer Cynllunio’r Cyngor PDF 73 KB
Pwrpas: Adolygu Cod Ymarfer Cynllunio’r Cyngor yn unol ag adolygiad treigl Cyfansoddiad y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu i’r Dirprwy Swyddog Monitro gyflwyno adroddiad er mwyn diweddaru’r Cod Ymarfer Cynllunio fel rhan o adolygiad treigl o Gyfansoddiad y Cyngor. Awgrymodd y dylid cynnwyd paragraff 4.7 er mwyn rhoi arweiniad clir ar sefyllfa Aelodau Gweithredol sydd yn gwasanaethu ar y Pwyllgor Cynllunio.
Cytunwyd ar y newidiadau ychwanegol canlynol er mwyn gwella dealltwriaeth a chysondeb y ddogfen:
· Newid y gair ‘dylid’ i ‘rhaid’ yn y ddogfen drwyddi draw.
· Paragraff 4.7 i gyfeirio at ‘Uwch Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd’.
· Brawddeg olaf paragraff 5.1 i ddarllen ‘Dylai swyddogion fod yn ymwybodol o...’
· Brawddeg olaf paragraff 5.4 i ddarllen ‘Mae gan yr Aelod(au) dros y ward yna hawl...’
· Mae angen mwy o eglurder yn y cyfeiriad ym mharagraff 5.5 at ‘mae’n rhaid i’r Aelod hwnnw sefyll i lawr...’
PENDERFYNWYD:
(a) Mae’r Cod Ymarfer Cynllunio yn addas i’r diben mewn perthynas â’r cyngor mewn perthynas â Chod Ymddygiad yr Aelodau a’r Protocol ar berthnasoedd Swyddogion/Aelodau, yn ddarostyngedig i’r diwygiad arfaethedig a cyfeirir ato ym mharagraff 1.05 yr adroddiad a’r newidiadau ychwanegol a restrir uchod; a
(b) Adrodd ar y Cod Ymarfer Cynllunio i Bwyllgor Gwasanaethau Cyfansoddiadol a Democrataidd y Cyngor gyda chyngor gan y Pwyllgor hwn ei fod yn cael ei ddiwygio yn unol ag argymhelliad 1 uchod.