Mater - cyfarfodydd

Audit Committee Terms of Reference and Charter

Cyfarfod: 29/11/2018 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 17)

17 Cylch Gorchwyl a Siarter y Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas:        Gofyn i'r Aelodau gytuno i'r newidiadau i Gylch Gorchwyl a Siarter y Pwyllgor Archwilio, Erthygl Saith o Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd Rheolwr Archwilio Mewnol Gylch Gorchwyl a Siarter y Pwyllgor Archwilio.  Roedd y rhain wedi’u diweddaru yn dilyn gweithdy ar gyfer aelodau’r Pwyllgor Archwilio a’u halinio gyda chanllawiau CIPFA.   Cyfeiriodd yr aelodau at ddau gopi o’r Cylch Gorchwyl  ynghlwm, un gyda newidiadau wedi'u nodi ac amlinellodd y newidiadau i'r ddogfen a'r unig gyfrifoldeb ychwanegol oedd cynhyrchu Adroddiad Blynyddol i’r Cyngor Llawn.

 

                        Wrth gyfeirio at y Siarter, cadarnhaodd bod hyn yn elfen newydd ar gyfer yr Awdurdod ac roedd yn cynnwys mwy o fanylion ar y cylch gorchwyl, rolau a chyfrifoldebau y Pwyllgorau Archwilio a Chraffu a'r cysylltiadau gyda Gr?p Cyswllt y Cadeiryddion a'r Is-Gadeiryddion.   Cyflwynir y rhain i'w hystyried gan y pwyllgor ac wedi hynny byddent yn cael eu cyflwyno i'r Cyngor Llawn eu cymeradwyo.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Patrick Heesom at y Mesur ac aelodaeth y Pwyllgor Archwilio.   Gwnaeth sylwadau ar lwyth gwaith helaeth y Pwyllgor ac awgrymu y dylid cynyddu maint y pwyllgor yn unol â’r pwyllgorau eraill.   Mewn ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y gallai unrhyw newidiadau i faint Pwyllgorau gael eu hystyried yn y Cyfarfod Blynyddol, lle byddai hyn yn cael ei drafod.   O ran Mesur 2011, roedd y  cynigion yn yr adroddiad yn unol â gofynion a chanllawiau CIPFA.  Awgrymodd y Cynghorydd Heesom y dylid gofyn i’r Pwyllgor Archwilio a oeddent yn fodlon â chyfansoddiad y pwyllgor.  

           

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at Adran 8 (materion ariannol) a gofyn a ddylai'r Aelodau ystyried hyfywedd diwedd blwyddyn y cyngor.  Ychwanegodd bod cyfarfodydd Cyllideb yn cael eu cynnal ond cyfrifoldeb yr aelodau oedd adolygu a darparu sylwadau ar y wybodaeth a ddarparwyd iddynt.   Teimlai y byddai’n ddefnyddiol pe bai’r Pwyllgor Archwilio yn cynhyrchu adroddiad o’r wybodaeth y maent yn ei derbyn.    Cyfeiriodd hefyd at Atodiad A ar dudalen 55, y saeth o’r Pwyllgor Archwilio i’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol a’r Datganiad Cyfrifon a gofyn a ddylid cael saeth deuffordd.   

 

            Mewn ymateb amlinellodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y meysydd sy’n rhan o reoli’r trysorlys a’u cyfrifoldebau o ran benthyca darbodus.   Roedd iechyd ariannol y cyngor yn cael ei ddarparu yn yr adroddiadau monitro cyllideb, ac yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ac yn y Cyngor wrth osod y gyllideb.   Mae'r Swyddog Adran 151 yn rhoi cyngor i’r aelodau wrth osod y gyllideb.    O ran y diagram yn Atodiad A teimla’r Prif Swyddog na fyddai’r Pwyllgor Archwilio yn atgyfeirio’r Datganiad Cyfrifon yn ôl i’r Cyngor ond argymell ei gymeradwyaeth i’r Cyngor.

 

Roedd Cynghorydd Peers yn deall sut yr oedd y broses yn gweithio ond yn teimlo y gallai’r Pwyllgor Archwilio wneud ail wiriad a darparu sicrwydd.   Ychwanegodd bod y diagram yn edrych fel nad oedd y Datganiad Cyfrifon a'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn cael eu rhannu gyda’r Pwyllgor Archwilio ond bod gofyn iddynt gyflwyno sylwadau arnynt.   Eglurodd y Prif Swyddog bod y dogfennau hyn yn deillio o'r Pwyllgor Archwilio ac eleni roedd Aelodau'r Pwyllgor Archwilio wedi cyfrannu mwy at baratoi'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.     O ran hyfywedd ariannol, roedd y Cabinet yn cynnig y gyllideb, yna byddai'n cael  ...  view the full Cofnodion text for item 17