Mater - cyfarfodydd
ivate Hire / Hackney Carriage (Joint) Driver Licence
Cyfarfod: 29/11/2018 - Is-bwyllgor Trwyddedu (eitem 3)
CAIS AM DRWYDDED YRRU CERBYD HURIO PREIFAT / CERBYD HACNI (AR Y CYD)
Pwrpas: Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (3/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (3/3)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (3/4)
- Restricted enclosure 5 , View reasons restricted (3/5)
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i'r cyfarfod. Cyflwynodd aelodau’r panel ac eglurodd y drefn ar gyfer y gwrandawiad, gan gynnwys sut y byddai’r cais yn cael ei benderfynu arno.
Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried cais ar gyfer Trwydded yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd). Y rheswm bod y cais gerbron yr Is-bwyllgor oedd oherwydd troseddu mynych er bod cyfnod o dros 10 mlynedd ers yr collfarn diwethaf.
Gofynnodd y Cadeirydd ac aelodau’r Is-bwyllgor gwestiynau i’r ymgeisydd, yn arbennig mewn perthynas â chollfarnau penodol, ac ymatebodd yr ymgeisydd. Hefyd gofynnodd y Cyfreithiwr gwestiynau penodol mewn perthynas â phob collfarn.
Gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i roi sylwadau. Rhoddodd fanylion ar y cefndir a arweiniodd at y troseddau sydd wedi digwydd, gan egluro ei bod yn unigolyn gwbl wahanol yn ystod y cyfnod 2003 a 2006 pan cyflawnwyd y troseddau. Roedd wedi symud o’r ardal, ac wedi cael cwmni newydd a gwneud bywyd newydd iddi ei hun ac wedi cael dau fab, sydd yn oedran ysgol bellach. Roedd eisiau gallu darparu iddynt, a roedd hyn yn gyfle da i weithio oriau hyblyg a fyddai’n gweddu ei bywyd cartref gyda theulu. Rhoddodd fanylion am y cyfnod anodd hwn yn ei bywyd a'r rhesymau yr oedd yn teimlo ei bod yn cymryd cyffuriau.
Dywedodd yr ymgeisydd ei bod yn unigolyn cymwys ac addas.
Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon fod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gwnaeth gais i’r ymgeisydd a’r Arweinydd Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod tra bod yr Is-bwyllgor yn dod i benderfyniad.
Penderfyniad
Wrth benderfynu ar y cais, roedd yr is-bwyllgor wedi ystyried y sylwadau a wnaethpwyd a bod troseddu mynych wedi digwydd, gan nodi nad oedd unrhyw drosedd wedi digwydd ers dros 12 mlynedd. Cytunodd yr Is-Bwyllgor fod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i gael Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).
Gwahoddwyd y Swyddog Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl er mwyn ailgynnull y cyfarfod ac i’w hysbysu o’u penderfyniad.
PENDERFYNWYD:
Bod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i gynnal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a chaniatáu’r Drwydded.