Mater - cyfarfodydd

Regional Homeless Strategy and Local Action Plan

Cyfarfod: 19/12/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 45)

45 Strategaeth Ddigartrefedd Ranbarthol a Chynllun Gweithredu Lleol pdf icon PDF 92 KB

Pwrpas:        Darparu manylion am y Strategaeth Digartrefedd a’r Cynllun Gweithredu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar ddatblygiad strategaeth ranbarthol a oedd yn ofyniad statudol.  Siaradodd am fanteision partneriaeth ranbarthol oedd yn anelu at greu diwylliant o gydweithio gwell ac effeithiol i fynd i'r afael ag achosion creiddiol penodol digartrefedd.  Cyfeiriwyd at ymagwedd ragweithiol y Cyngor o ran ymdrin â digartrefedd ieuenctid gan gynnwys gwaith ataliol yn gynnar mewn partneriaeth ag Addysg.

 

Eglurodd y Rheolwr Cefnogi Cwsmeriaid fod yr adolygiad cychwynnol wedi helpu i gadarnhau data presennol i fwydo i mewn i'r cynllun gweithredu lleol. Seiliwyd hyn ar y tair thema a gytunwyd ar gyfer y strategaeth ranbarthol - Pobl, Cartrefi a Gwasanaethau - ond hefyd roedd yn adlewyrchu blaenoriaethau lleol. Nodwyd crynodeb o’r blaenoriaethau o dan bob thema yn yr adroddiad, oedd yn ymwneud â gweithio gyda gwasanaethau eraill y Cyngor. Awgrymwyd fod y rhaglen ar gyfer y Flwyddyn Newydd yn cynnwys datgan yr wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd yn erbyn y cynllun gweithredu lleol.

 

Aeth y Cynghorydd Attridge ati i gydnabod cryfder yr ymagwedd ranbarthol a rhoddodd sicrwydd fod blaenoriaethau lleol hefyd yn cael eu hadlewyrchu yn y cynllun gweithredu.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Palmer bwysigrwydd sicrhau fod darpariaeth ar gael wedi i berthynas ddod i ben. Cytunodd y Rheolwr Cefnogi Cwsmeriaid i siarad gydag ef y tu allan i'r cyfarfod yngl?n â mater yn ei ward. Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Hardcastle cytunodd i gylchredeg manylion yngl?n â’r nifer o unigolion digartref sydd ar hyn o bryd wedi eu lleoli mewn llety Gwely a Brecwast.

 

Siaradodd y Cynghorydd Butler am yr angen am ymyrraeth gan Lywodraethau'r DU a Chymru i helpu i ddod â llety gwag uwchben siopau yng nghanol trefi yn ôl i ddefnydd.

 

Yn ystod trafodaeth, siaradodd Aelodau o blaid ymagwedd y Cyngor o ran mynd i’r afael â chysgu allan yn y Sir. Hefyd pwysleisiwyd effaith polisi’r Llywodraeth ar eiddo sy’n cael eu rhentu a thaliadau uniongyrchol.

 

Fel cynrychiolydd Sir y Fflint ar y strategaeth ranbarthol, dywedodd y Rheolwr Strategaeth Tai fod yr ymagwedd hefyd yn darparu cyfleoedd cadarnhaol ar gyfer rhannu arfer gorau a dysgu.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Fod y Pwyllgor yn cefnogi Strategaeth Digartrefedd Rhanbarthol Gogledd Cymru a chynllun gweithredu lefel uchel; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r camau gweithredu a flaenoriaethir ac a amlygir o fewn cynllun gweithredu lleol Digartrefedd Sir y Fflint, fel y nodir yn yr adroddiad.