Mater - cyfarfodydd

Budget 2019/20 Stage 1 and 2 Proposals

Cyfarfod: 20/11/2018 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 63)

63 Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2019/20: Rhagolygon Diweddariedig a Chynigion Cyllideb Cyfnod 1 a 2 pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas: Rhoi gwybod am sefyllfa ddiweddaraf y gyllideb 2019/20 a chymeradwyo Cam 1 a Cham 2 cynigion y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad yngl?n â’r sefyllfa ddiweddaraf o ran cyllideb 2019/20. Gwahoddwyd y Cyngor i gymeradwyo Cam 1 a Cham 2 o gynigion y gyllideb, a rhoi ymateb ffurfiol i Lywodraeth Cymru ynglyn â’r Setliad Dros Dro ar gyfer Llywodraeth Leol a oedd yn destun ymgynghoriad. Gofynnwyd hefyd i’r Aelodau yn unigol ac ar y cyd i gefnogi’r ymgyrch #CefnogiEinCais dros gyllid tecach i lywodraeth leol ac i Sir y Fflint.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod Cam 1 o’r gyllideb yn ymdrin â Chyllid Corfforaethol a Cham 2 â’r Portffolios Gwasanaeth. Byddai Cam 3 yn dilyn, i ymdrin ag atebion cenedlaethol a gosod cyllideb gyffredinol gytbwys.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad ar y cyd oedd yn trafod y materion allweddol canlynol:

 

·         Rhagolygon y gyllideb yn lleol a sefyllfa ariannol y Cyngor

  • y wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â sefyllfa’r gyllideb genedlaethol
  • datganiad cyllideb Canghellor y Deyrnas Gyfunol
  • rhagolygon cyllideb 2019/20
  • rhagolygon cyllideb 2019/20 fel y’u diwygiwyd
  • talu’r diffyg cyllid cyn y setliad
  • dull y Strategaeth Ariannol Tymor Canol ar gyfer gosod y gyllideb
  • y cyd-destun ar gyfer penderfyniadau lleol
  • y sefyllfa sydd ohoni i’r Cyngor

·         Cam 1 – Cyllid Corfforaethol 

o   Cam 1 – atebion ar gyfer y gyllideb gorfforaethol

·         Cam 2 – Portffolios Gwasanaethau

o   Cam 2 - crynodeb o gynigion cynllun busnes ar lefel portffolio

·         Sefyllfa’r gyllideb genedlaethol a Cham 3 o osod y gyllideb

o   crynodeb o sefyllfa gyllidebol Cymru

o   Cyllid cenedlaethol yn erbyn Treth y Cyngor

o   Dadansoddi Treth y Cyngor

o   cydbwyso incwm y Grant Cynnal Refeniw a Threth y Cyngor

o   ymateb o sesiynau’r gweithlu

o   #CefnogiEinCais – byrdwn yr ymgyrch

o   #CefnogiEinCais – negeseuon o gefnogaeth

o   #CefnogiEinCais – Treth y Cyngor

o   #CefnogiEinCais – dadl gyhoeddus

o   #EinDydd – 20 Tachwedd 2018

o   camau nesaf a therfynau amser. 

 

Diolchodd y Cynghorydd Aaron Shotton i’r Prif Weithredwr, y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Prif Swyddogion am eu gwaith caled ar gyllideb y Cyngor ar gyfer 2019/20. Dywedodd fod angen cytuno ar Gamau 1 a 2 o’r gyllideb, a’i fod yn gobeithio y byddai’r Aelodau’n cefnogi’n unfrydol y cynigion, a fu drwy’r drefn Trosolwg a Chraffu. Cyfeiriodd at yr arbedion effeithlonrwydd a gynigiwyd yng Nghamau 1 a 2 a fyddai’n cyfrannu at ‘dalu’r diffyg’, a dywedodd fod y cyfnod o lymder wedi gorfodi’r Cyngor i ddefnyddio mwy o’i gronfeydd wrth gefn wrth weithredu ei strategaeth i amddiffyn gwasanaethau.Er bod y gyllideb yn cynnwys cynnydd dangosol o 4.5% yn Nhreth y Cyngor, a gostyngiad arall o £250,000 mewn costau uwch-reolwyr, roedd yno ddiffyg sylweddol ar ôl i’w dalu. 

 

Soniodd y Cynghorydd Shotton am y newid o ran rhoi’r gorau i ddefnyddio cyllid cenedlaethol i gynnal gwasanaethau llywodraeth leol a defnyddio incwm Treth y Cyngor yn ei le, a ph’un a oedd hynny’n bolisi bwriadol ai peidio, dyna oedd y sefyllfa mewn gwirionedd yng Nghymru a Lloegr. Dywedodd fod hyn yn peri cryn bryder, a dywedodd nad oedd yr Awdurdod yn dymuno bod mewn sefyllfa lle’r oedd cynyddu  ...  view the full Cofnodion text for item 63