Mater - cyfarfodydd
Economic and Market Update
Cyfarfod: 28/11/2018 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 38)
38 Diweddariad ar yr Economi a'r Farchnad PDF 91 KB
Diweddaru Aelodau’r Pwyllgor ar yr economi a’r farchnad.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rannodd Mr Harkin y wybodaeth ddiweddaraf ynglyn â’r economi a’r marchnadoedd yn y tri mis diweddaraf.Roedd tudalen 315 yn dangos yr hyn a ddigwyddodd yn y farchnad yn y tri mis a ddaeth i ben ar 30 Medi 2018. Cododd Mr Harkin y materion allweddol canlynol:
· Yn ôl ystadegau’r farchnad roedd y marchnadoedd mewn cyflwr ‘bodlon cymryd risgiau’.
· Roedd yr enillion yn dda drwyddi draw, ac wedi gwasgfeydd ar y Marchnadoedd Newydd roeddent bellach wedi dod ag enillion cadarnhaol.
· O safbwynt buddsoddi, roedd llawer o hyder yn enwedig o ran yr Unol Daleithiau, lle’r oedd camau’r Gronfa Ffederal wedi llacio rhywfaint o’r straen ar yr economi.
· Daeth Sterling o dan bwysau yn erbyn doler yr Unol Daleithiau a’r Ewro, a byddai hynny’n cael effaith ar arian tramor mewn cronfeydd pensiynau wedi’u seilio yn y Deyrnas Gyfunol.
Ers hynny, bu’r marchnadoedd ecwiti o dan gryn bwysau.Ym mis Hydref 2018 cafwyd colledion mawr yn y marchnadoedd ecwiti byd-eang.Cododd Mr Harkin y materion allweddol canlynol:
· Darparwyd rhywfaint o ddadansoddiad ar Bloomberg o ran y posibilrwydd o wrthod bargen ar gyfer ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, a’r effaith y byddai hynny’n ei gael ar Sterling.
· Roedd arlywyddion Ffrainc a’r Almaen o dan bwysau, ac roedd llawer o bwysau a newyddion drwg yn fyd-eang
Holodd y Cynghorydd Bateman a oedd perfformiad Sterling yn erbyn doler yr Unol Daleithiau’n beth da i allforwyr.Cytunodd Mr Harkin ei fod yn beth da, ond y byddai yno bob amser rai’n ennill a rhai’n colli yn y farchnad.Dywedodd fod y Deyrnas Gyfunol yn allforio swm mawr o nwyddau, ac felly y byddai’n dda i fusnes allforio pe byddai llawer o’i nwyddau’n dod o’r Unol Daleithiau.Roedd sefyllfa Sterling o gymharu ag arian gwledydd eraill yn dal yn wan oherwydd ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, a’r gagendor yn arbennig o lydan o gymharu â doler yr Unol Daleithiau, ond nid oedd mor wan ag y bu.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi a thrafod yr Wybodaeth Ddiweddaraf am yr Economi a'r Farchnad ar 30 Medi 2018.
(b) Nodi sut yr oedd gwybodaeth yn yr adroddiad yn “gosod y llwyfan” i bob pwrpas ar gyfer beth y dylai’r Pwyllgor ddisgwyl ei weld yn adroddiad cryno Strategaeth Fuddsoddi a Rheolwyr o ran perfformiad portffolio asedau’r Gronfa.