Mater - cyfarfodydd

LGPS Update

Cyfarfod: 28/11/2018 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 34)

34 Diweddariad Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol pdf icon PDF 96 KB

Darparu Aelodau’r Pwyllgor gyda materion cyfredol sy’n effeithio rheolaeth Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd Miss Fellowes y wybodaeth ddiweddaraf yn gryno yngl?n â’r materion allweddol oedd yn effeithio ar y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.Amlygodd y materion canlynol:

·         Cadarnhawyd y byddai’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr yn 2.4% ym mis Medi 2018, ac felly byddai pensiynau’n cynyddu 2.4% fis Ebrill 2019.

·         Cyhoeddodd Adran Actiwari'r Llywodraeth ei Adroddiad Adran 13 fis Medi, ac ni soniwyd am y Gronfa ynddo.Roedd y pedwar prif gwmni actiwaraidd oedd yn cynghori cronfeydd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol â nifer o bryderon yngl?n â’r adroddiad, ac roeddent wedi mynegi’r rheiny mewn llythyr ar y cyd i’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a Bwrdd Ymgynghorol y Cynllun.  Nid oedd dim dwywaith na fyddai’r trafodaethau’n parhau yngl?n â’r pryderon hynny.

·         Bu trafodaeth yngl?n â symud i gylch prisio pedair blynedd, gan gynnal prisiad 2019 fel y bwriadwyd, ond gan adolygu cyfraddau cyfraniadau’r cyflogwr ar ganol y cylch (2022 yn ôl pob tebyg), a chynnal y prisiad statudol dilynol yn 2024. Byddai Mercer yn rhannu mwy o wybodaeth am hyn faes o law.

·         Ym mis Hydref penderfynodd yr Uchel Lys gydraddoli’r Isafswm Pensiwn Gwarantedig ar gyfer yr aelodau hynny oedd wedi ymryddhau o Gynllun y Wladwriaeth.Roedd hynny’n effeithio ar bob aelod oedd ag Isafswm Pensiwn Gwarantedig ers 17 Mai 1990, a disgwylid y byddai’n cael effaith ar gostau a rhwymedigaethau cynlluniau sector preifat.O ran y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a Chronfa Bensiynau Clwyd, y farn ar y cychwyn oedd y byddai unrhyw effaith yn dibynnu ar broffil yr aelodau, ac y byddai’n debygol o fod yn llawer llai arwyddocaol oherwydd y dull mynegeio a ddefnyddid gyda’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, a oedd yn debygol o gael ei ledaenu.Roedd yr actiwariaid yn cadw golwg barhaus ar hyn.

 

Holodd y Cynghorydd Jones a oedd holl awdurdodau gweinyddu’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn dilyn yr un cylch ar gyfer prisio actiwaraidd.Cadarnhaodd Mr Middleman fod pob awdurdod gweinyddu yng Nghymru a Lloegr yn dilyn yr un cylch, a bod Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yr Alban flwyddyn ar ei hôl hi.Yn 2024 byddai pawb yn dilyn yr un drefn pe byddai’r newidiadau arfaethedig yn digwydd.Dywedodd Mr Middleman fod pedair blynedd yn amser hir i gronfa oedd â pholisi rheoli risg gweithredol, ac felly ei bod yn bwysig meddu ar y grym i adolygu’r cyfraniadau ar ganol y cylch pe byddai angen.

            Gofynnodd Mr Hibbert am yr wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â’r drefn Rheoli Costau.Eglurodd Mr Middleman drefn y Trysorlys, lle byddai’n rhaid i’r aelodau ysgwyddo’r costau pe byddent yn mynd yn fwy na 2% yn uwch na’r targed, ond yn elwa pe byddai’r costau’n gostwng mwy na 2% islaw’r targed (drwy hwb i’w buddion neu ostyngiad yn eu cyfraniadau).  Fodd bynnag, roedd Bwrdd Ymgynghorol y Cynllun yn gweithredu trefn arall a fedr fod yn drech na threfn y Trysorlys, lle’r oedd rhywfaint o ddisgresiwn pe byddai’r costau’n gyfwerth â rhwng 0-2% o gyflogau.  Yn ôl y data diweddaraf ynghylch tueddiadau, roedd yn debygol y byddai rhywfaint  ...  view the full Cofnodion text for item 34