Mater - cyfarfodydd

Outdoor Children's Play Areas

Cyfarfod: 20/11/2018 - Cabinet (eitem 266)

266 Ardaloedd Chwarae Plant pdf icon PDF 201 KB

Pwrpas:        Cyflwyno argymhellion AURA ar gyfer y cynllun arian cyfatebol blynyddol a dyraniadau cyfalaf 2019/20.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad Ardaloedd Chwarae Plant Awyr Agored, a oedd yn tynnu sylw at ddau argymhelliad gan Aura i’r Cyngor.  Roedd y rhain yn seiliedig ar gyllideb refeniw arian cyfatebol y Cyngor a dyraniadau cyfalaf, i fodloni pob datganiad o ddiddordeb gan Gynghorau Tref a Chymuned, ac i gynnal y rhwydwaith presennol o ardaloedd chwarae drwy wella safleoedd yr ystyrir iddynt fod yn y cyflwr gwaethaf.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad, a arweiniodd yn y pen draw at fwy na 100 ardal chwarae yn y Sir yn cael buddsoddiad, yn dilyn sefydlu Gr?p Tasg a Gorffen rhyw 8 mlynedd yn flaenorol.  Cytunodd y Cynghorydd Bithell a rhoddodd sylwadau ar yr esiamplau o gydweithredu da gyda Chynghorau Tref a Chymuned i sicrhau'r ardaloedd i blant, nawr ac yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cefnogi pob un o’r 23 datganiad o ddiddordeb ar gyfer rhaglen arian cyfatebol 2018/19, a bod y gordanysgrifiad o gost o £0.063 miliwn yn cael ei ddiwallu o ddyraniad cyfalaf blwyddyn 2 o £0.140 miliwn sy’n weddill; a

 

(b)       Bod y £0.077 miliwn sy’n weddill o raglen gyfalaf blwyddyn 2, ynghyd ag oddeutu £0.040 miliwn sy’n weddill o Flwyddyn 3 (£0.200 miliwn minws oddeutu £0.080 miliwn-£0.100 miliwn ar gyfer Bailey Hill a £0.060 miliwn i ddisodli dau gae 3G yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy), yn cael eu defnyddio i wella’r safleoedd ardal chwarae a nodir yn yr atodiad i’r adroddiad.