Mater - cyfarfodydd

North Wales Supported Living and Outreach Support Procurement

Cyfarfod: 20/11/2018 - Cabinet (eitem 268)

268 Caffael Cefnogaeth Estyn Allan a Byw â Chymorth Gogledd Cymru pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Mae chwe Awdurdod Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cydweithio ar ail gam y Tendr Gofal Cartref Rhanbarthol.  Cytunwyd yn rhanbarthol y dylai Cam 2 ganolbwyntio ar gaffael gwasanaethau byw â chymorth oherwydd oedi mewn ail-gomisiynu’r gwasanaethau hyn yn dilyn her gyfreithiol ddiweddar gan Mencap.  Mae’r adroddiad yn manylu ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn ac yn gofyn am gymeradwyaeth i dendro ar ran y rhanbarth ar gyfer Cytundeb Byw â Chymorth ac Estyn Allan.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad Caffael Cefnogaeth Estyn Allan a Byw â Chymorth Gogledd Cymru, a oedd yn rhoi manylion ynghylch y cynnydd a wnaed hyd yn hyn ar gam 2 o gaffael gwasanaethau byw â chymorth.  Roedd yn gofyn am gymeradwyaeth i dendro ar ran y rhanbarth ar gyfer Cytundeb Byw â Chymorth ac Estyn Allan.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cynnig i Sir y Fflint dendro ar gyfer Cytundeb Byw â Chymorth ac Estyn Allan Rhanbarthol.