Mater - cyfarfodydd

Treasury Management Mid-Year Review 2018/19 & Quarter 2 update

Cyfarfod: 21/11/2018 - Pwyllgor Archwilio (eitem 33)

33 Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2018/18 a Diweddariad Chwarterol 2 pdf icon PDF 114 KB

I gyflwyno adroddiad drafft canol blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2018/19 i'w adolygu, gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgaredd Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod y cyfnod 1 Gorffennaf hyd at 31 Medi 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Dros Dro (Cyfrifyddiaeth Dechnegol) Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys drafft ar gyfer 2018/19 cyn ei ystyried gan y Cabinet. Rhannwyd diweddariad ar Chwarter 2 er gwybodaeth.      

 

Roedd crynodeb o’r pwyntiau allweddol yn amlygu’r cynnydd yng nghyfradd sylfaenol y Bank of England a newidiadau rheoleiddiol sydd ar ddod. Nid oedd unrhyw newidiadau i’r sefyllfa fenthyciadau hirdymor, ac ymgymerwyd â benthyca tymor byr yn unol â’r strategaeth. Byddai ymagwedd wahanol i’r modd y mae Cronfeydd Marchnad Arian yn cael eu diffinio yn lleihau’r risg o ran y buddsoddiadau hynny.

 

Roedd diweddariad ar Chwarter 2 yn nodi’r sefyllfa bresennol o ran gweithgareddau rheoli’r trysorlys, gydag atodiad a oedd yn nodi dadansoddiad o fuddsoddiadau a benthyciadau. Fel rhan o strategaeth y Cyngor, roedd sesiwn hyfforddi Rheoli’r Trysorlys ar gyfer yr holl Aelodau wedi’i drefnu ar gyfer 29 Ionawr 2019.

 

Holodd y Cynghorydd Peers ynghylch y llog o £6.4m sy’n daladwy ar fenthyciadau a ddangosir ym mharagraff 5.04. Eglurodd y Rheolwr Cyllid Interim bod hyn yn adlewyrchu’r sefyllfa ganol blwyddyn a bod y mwyafrif o’r taliadau’n adlewyrchu penderfyniadau hanesyddol o ran benthyciadau. Ymgymerwyd ag adolygiadau gydag ymgynghorwyr rheoli’r trysorlys yn ystyried amodau’r farchnad ar yr adeg honno. Roedd y mwyafrif o’r benthyciadau’n daliadau aeddfedu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Peers ei bod yn bwysig deall y gost i’r Cyngor. Dywedodd y Prif Weithredwr bod hwn yn destun cymhleth. Dywedodd bod graddau’r craffu ar fenthyciadau yn llawer mwy cadarn a thryloyw erbyn hyn, a bod rhaid i unrhyw strategaeth ymadael ar gyfer ymrwymiadau benthyciadau fod yn sensitif i amodau’r farchnad.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Johnson, rhoddwyd eglurhad o’r mathau o sefydliadau yr oedd y Cyngor yn buddsoddi gyda hwy ynghyd â’r newid i Ddiwygio Marchnad yr UE a oedd yn lleihau ymhellach y risg o fuddsoddi gyda Chronfeydd Marchnad Arian. Yn ystod y drafodaeth ar effaith bosibl Brexit, eglurwyd nad oedd unrhyw effaith ar fenthyciadau presennol gan fod yr ansicrwydd yn ymwneud â marchnadoedd i’r dyfodol. Roedd y daflen a rannwyd â’r Cyngor ym mis Hydref wedi amlinellu’r risgiau posibl i’r Cyngor ac roedd swyddogion yn cyfrannu at waith cenedlaethol ar rannu risg ac ymarfer.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys drafft 2018/19 yn cael ei argymell i’r Cabinet ar 18 Rhagfyr 2018.