Mater - cyfarfodydd

Garden Waste Services

Cyfarfod: 11/12/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 38)

38 Adolygiad o Gostau Gwastraff Gardd yn Sir y Fflint pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        I adolygu a chael diweddariad yn dilyn cyflwyniad o’r taliadau ar gyfer gwasanaethau casglu Gwastraff Gardd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y Swyddog Ailgylchu a Gorfodi i'r Pwyllgor.  Cyflwynodd yr adroddiad oedd yn alinio model gwastraff ac ailgylchu'r Cyngor gyda Glasbrint Casgliadau Llywodraeth Cymru.  Cafodd hwn ei gymeradwyo gan y Cabinet ym mis Ionawr ac roedd cofrestriadau ar gyfer y gwasanaeth yma'n well na'r disgwyl ar 40% a chynigwyd cadw’r ffi'r un fath ar gyfer y flwyddyn nesaf. Dywedodd bod 30% o’r rheiny oedd yn derbyn y gwasanaeth ar fudd-daliadau.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Dolphin at faint y biniau ac roedd yn teimlo nad oeddynt yn ddigon mawr ac y dylai ail fin fod am ddim a chynigiodd roi hyn ymlaen fel Opsiwn 6 (£30 am y bin cyntaf, ail fin am ddim). Ychwanegodd bod awdurdodau eraill yn defnyddio biniau mwy ac awgrymodd ohirio’r defnydd o dechnoleg i gofrestru bin i eiddo hyd nes roedd ystyriaeth bellach wedi ei roi i ddarparu biniau mwy. Cyfeiriodd wedyn at e-bost roedd wedi ei anfon yn gofyn am Ostyngiadau i elusennau ond nid oedd dim byd wedi ei symud ymlaen o safbwynt hyn.

 

Atebodd Rheolwr y Rhaglen Gwastraff a Gwasanaethau Ategol drwy ddweud bod y bin 140 litr yn faint safonol ar draws Cymru. Treialwyd y biniau 240 litr a 140 litr yn 2003 ond bu problemau gweithredol yn ogystal â thoriadau a phroblemau gyda phwysau o safbwynt yr offer codi, a phenderfynwyd mai’r bin 140 litr oedd fwyaf addas. 

 

Fe wnaeth Prif Swyddog Strydwedd a Chludiant gydnabod sylwadau'r Cynghorydd Dolphin y dylai ail fin fod am ddim.

 

Nododd y Cynghorydd Mike Peers y sylwadau am finiau mwy a chyfeiriodd at gyfarfod yr Amgylchedd ar 16 Ionawr 2018 pan ddywedodd y Prif Swyddog y byddent yn edrych ar ddarparu biniau mwy a gofynnodd beth fu canlyniad hynny.

 

Roedd y Cynghorydd Peers yn falch bod y Cyngor wedi talu cost adfer ar gyfer y gwasanaeth hwn o £166.000 ond awgrymodd y gellid gweld hyn fel y Cyngor yn elwa a holodd a ddylid symleiddio taliadau cyn 2020. Os taw £30,000 yw'r gost am dechnoleg pad PIN, beth am ddefnyddio'r arian dros ben o'r flwyddyn gyfredol. Yn 1.16 ystyriwyd y potensial o gynnig cyfraddau is i bobl h?n ac agored i niwed yn ystod y flwyddyn gyntaf ac ystyriwyd y byddai adolygiad yn cael ei gynnal ynl?n â'r canlyniad. Cytunodd gyda sylwadau’r Cynghorydd Dolphin nad oedd y bin yn ddigon mawr.

 

Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad bod y biniau mawr yn rhy drwm i’r peiriannau eu codi. Gallai’r gostyngiad ffi am ail fin effeithio ar y gyllideb a allai olygu codi mwy am y bin cyntaf. O safbwynt Gostyngiadau – nododd archwiliad o bobl ar y Cynllun Gostyngiad Treth Cyngor bod 30% wedi cofrestru ar y cynllun. Dyma oedd y rhesymau am beidio gostwng na chynyddu'r cyfraddau eleni. Canmolodd y tîm bach sy’n llwyddo i anfon 30,000 o sticeri allan a delio gydag ymholiadau ffôn. Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton fod hwn yn fater dadleuol a bod y 40% o gofrestriadau yn galonogol ac y  ...  view the full Cofnodion text for item 38