Mater - cyfarfodydd

Reappointment of a Standards Committee Independent Member

Cyfarfod: 20/11/2018 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 65)

65 Ailbenodi Aelod Annibynnol o’r Bwyllgor Safonau. pdf icon PDF 74 KB

Pwrpas: Ystyried penodi Aelod Annibynnol i’r Bwyllgor Safonau am ail dymor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar Benodi Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau am ail dymor. Rhoes wybodaeth yn gefndir i’r adroddiad, gan ddweud y byddai cyfnod Mr Ken Molyneux fel aelod cyfetholedig o’r Pwyllgor Safonau yn dod i ben fis Rhagfyr 2018. Roedd Mr. Molyneux yn gymwys i’w ail-benodi am dymor arall ac wedi dweud y byddai’n fodlon ymgymryd â’r swydd pe câi ei benodi eto. Dywedodd y Prif Swyddog pe byddai’r Aelodau’n penderfynu peidio ag ail-benodi Mr. Molyneux, yna byddai’n rhaid i’r Cyngor gynnull Panel Penodiadau a hysbysebu’r swydd yn y wasg leol am bris. 

 

                        Cynigiwyd cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad, sef ail-benodi Mr. Ken Molyneux i’r Pwyllgor Safonau am bedair blynedd. Eiliwyd y cynnig hwnnw ac fe’i cymeradwywyd wedi pleidlais. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Ail-benodi Mr. Ken Molyneux i’r Pwyllgor Safonau am bedair blynedd.