Mater - cyfarfodydd
Draft Interim Houses in Multiple Occupation (HMO) Developer Advice Note
Cyfarfod: 11/12/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 36)
36 Drafft Nodyn Cyngor Datblygwr Tai Amfeddiannaeth (HMO) Dros Dro PDF 79 KB
Pwrpas: Darparu cyngor cynllunio interim i ddarpar ddatblygwyr Tai Amlfeddiannaeth o ran y safonau, yr amodau a’r gofynion y dylid eu hystyried wrth gyflwyno ceisiadau. Dylid cyhoeddi’r canllaw hwn ar gyfer ymgynghoriad â’r cyhoedd a rhanddeiliaid er mwyn sicrhau ei fod yn ddylanwadol fel ystyriaeth gynllunio faterol. Bydd polisi penodol yn ymwneud â datblygiad Tai Amlfeddiannaeth yn cael ei gyhoeddi fel rhan o’r Cynllun Datblygu Lleol newydd, ond ni fydd unrhyw werth iddo nes i’r cynllun gael ei fabwysiadu, felly cyhoeddir y Nodyn Cyngor Cynllunio Interim.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Dywedodd yr Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd wrth Aelodau bod angen i geisiadau datblygu Tai Amlfeddiannaeth fynd drwy’r Pwyllgor Cynllunio bellach, ar ôl newidiadau i’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn y math hwn o eiddo, sydd wedi arwain at gwynion gan drigolion lleol a Chynghorwyr. Yn y gorffennol, mewn trefi prifysgol fyddai eiddo fel hyn i'w canfod ond oherwydd y diffyg mewn tai, mae mwy yn cael eu datblygu erbyn hyn. Amlinellodd beth fyddai’r Nodyn Cyngor Datblygwr yn ei olygu gan nad yw’r polisïau cyfredol yn ddigonol yn hyn o beth. Roedd y Pwyllgor Cynllunio wedi ei chael hi’n anodd delio gyda’r mathau hyn o Geisiadau Cynllunio gan nad oedd polisi penodol yn ymwneud â Thai Amlfeddiannaeth o dan y Cynllun Datblygu Trefol. Roedd y polisi yn cael ei ddatblygu i’w gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol ac roedd yr Hysbysiad Cyngor Datblygwyr hwn yn rhoi cyngor i ddatblygwyr yn y cyfamser. Roedd angen cymeradwyaeth ar y Nodyn Cyngor cyn iddo gael ei rhyddhau i’w ymgynghori arno a’i fabwysiadu gan y Cabinet a gofynnwyd i'r Pwyllgor hwn am ei sylwadau.
Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio Amgylchedd a’r Economi) bod y Gr?p Strategol Cynllunio wedi eu hymgynghori ar hyn a bod y Nodyn Cyngor Datblygwyr Interim drafft wedi ei atodi at yr adroddiad fel Atodiad 1. Unwaith byddai’r Pwyllgor yn cymeradwyo'r cynnwys byddai'n cael ei gyhoeddi ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus. Wedi’r ymgynghoriad byddai’n cael ei fabwysiadu gan y Cabinet ac yna byddai Gweithdy i’r holl Aelodau’n cael ei gynnal.
Gofynnodd y Cynghorydd Joe Johnson am eglurder am y diffiniad o D? Amlfeddiannaeth a gofynnodd a yw'n golygu 3 o bobl nad oeddynt yn perthyn i'r un teulu. Cadarnhaodd y Prif Swyddog fod hynny yn wir.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Owen Thomas at y (Cynllun Datblygu Trefol) gan nodi bod modd rhoi polisïau blaenorol yn eu lle cyn ei fabwysiadu, a gofynnodd a fyddai modd ffurfioli’r polisi yn yr un modd. Wrth ymateb dywedodd y Prif Swyddog bod y Cynllun Datblygu Trefol yn wahanol i'r Cynllun Datblygu Lleol gan fod y cynllun eisoes wedi ei fabwysiadu.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Mike Peers bod y Gr?p Strategaeth Cynllunio wedi gwneud sylwadau ar hyn. Roedd yr adroddiad yn nodi bod y Cabinet wedi derbyn yr adroddiad ar 9 Hydref ond ar yr agenda ar gyfer y Cabinet cafodd ei gyflwyno ar 23 Hydref ac roedd am gael eglurder. Roedd yn teimlo y dylai’r Pwyllgor fod wedi gweld y ddogfen ddrafft cyn iddi gael ei hystyried yn y Cabinet. Yna cyfeiriodd at bwynt 4.12 Golygfa a Phreifatrwydd “Mae’r ACLl yn ystyried bod golygfa resymol yn golygu isafswm pellter o 12 metr" ac roedd yn teimlo y dylid ei newid i "ceisio am isafswm pellter o 12 metr". O safbwynt 4.15, awgrymodd y Cynghorydd Peers y dylid cynnwys isafswm pellteroedd wrth gyfeirio at ffenestri islawr. Ychwanegodd bod y cynlluniau a’r diagramau yn glir ond dywedodd bod pryderon wedi eu mynegi yn y Gr?p Strategaeth ... view the full Cofnodion text for item 36