Mater - cyfarfodydd

Draft Rights of Way Improvement Plan 2018-2028 (RoWIP

Cyfarfod: 27/11/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 29)

29 Cynllun Drafft Gwella Hawliau Tramwy 2018-2028 (RoWIP) pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas: Ymgynghori gydag aelodau’r pwyllgor ar y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy 2018-2028 newydd fel rhan o’r cyfnod ymgynghori statudol o 3 mis.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) adroddiad ar Gynllun Gwella Hawliau Tramwy newydd 2018-2028 yn rhan o'r ymgynghoriad statudol 3 mis o hyd.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr ail CGHT hwn yn asesu rhwydwaith 2018 ac yn gwerthuso'r cynnydd a wnaed ers 2008.  Mae'r cyd-destun cyfredol (2018) o ran polisi yn cael ei archwilio, meysydd â blaenoriaeth yn cael eu nodi a Datganiad Gweithredu o arddull newydd yn cael ei gyflwyno. Gofynnodd y Prif Swyddog i'r Rheolwr Mynediad a'r Amgylchedd Naturiol gyflwyno'r adroddiad.

 

                        Eglurodd y Rheolwr Mynediad a'r Amgylchedd Naturiol fod y CGHT cyntaf wedi nodi sawl maes fel blaenoriaethau allweddol ar gyfer 2008-2018.  O'r 22 o dasgau a nodwyd, yr oedd 7 wedi'u cwblhau, neu gynnydd sylweddol wedi'i wneud yn gysylltiedig â hwy, ni chafwyd ond ychydig o gynnydd os o gwbl gyda 7 arall, a bu cynnydd rhannol yn gysylltiedig ag 8 ohonynt. Fodd bynnag, canfuwyd bod y data a gofnodwyd yn anghyson ac weithiau'n brin, gan olygu ei bod hi'n anodd nodi cynnydd mewn rhai meysydd. 

 

            Adroddodd y Rheolwr Mynediad a'r Amgylchedd Naturiol ar y prif ystyriaethau, fel y'u nodwyd yn yr adroddiad.  Dywedodd fod llyfryn Polisi a Gweithdrefn eisoes wedi cael ei lunio fel blaenoriaeth.  Byddai'r polisïau a'r gweithdrefnau'n cael eu defnyddio'n sail ar gyfer llyfryn a fyddai ar gael i ddefnyddwyr y rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus ac i dirfeddianwyr er mwyn sicrhau dealltwriaeth eang a thryloywder ynghylch yr hyn y mae Cyngor Sir y Fflint yn ei wneud a'r modd y mae'n mynd ati i wneud hynny. 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at y 1800 o lwybrau cyhoeddus unigol a oedd yn ffurfio'r rhwydwaith hawliau tramwy yn 2018, a dywedodd fod rheoli a chynnal a chadw'r rwydwaith yn golygu llawer iawn o waith, gan sôn pa mor bwysig oedd cymorth gwirfoddolwyr yn hynny o beth.  Awgrymodd y gallai gwirfoddolwyr gymryd mwy o ran yn y gwaith hwnnw yn y dyfodol.  Cydnabu'r Rheolwr Mynediad a'r Amgylchedd Naturiol rôl bwysig gwirfoddolwyr wrth gynorthwyo ceidwaid, a chyfeiriodd hefyd at grwpiau lleol a oedd yn cyflawni gwaith gwirfoddol i gynorthwyo'r gwasanaeth cefn gwlad.  Mewn ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Shotton ynghylch arwyddbyst, esboniodd y Rheolwr Mynediad a'r Amgylchedd Naturiol fod cynnydd pellach wedi'i wneud a'r gwaith yn parhau. Mewn ymateb i gwestiwn arall gan y Cynghorydd Shotton, esboniodd y byddai'r ymgynghoriad ar y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy drafft yn dod i ben ym mis Ionawr 2019. 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Dolphin at dudalen 56 yr adroddiad a'r ffaith bod rhwystrau yn peri anhawster i bobl mewn cadeiriau olwyn trydanol wrth iddynt geisio cael mynediad at Lwybr Arfordir Cymru. Gofynnodd am y camau a gymerwyd i ymdrin â'r broblem hon, a siaradodd am bwysigrwydd cadw rhwystrau ac at broblemau a gafwyd yn y gorffennol mewn mannau penodol.   Eglurodd y Rheolwr Mynediad a'r Amgylchedd Naturiol fod safbwynt yr Awdurdod yn gyfreithiol, ond yr oedd yn adolygu ei safbwynt o ran y rhwystrau, ac yn ystyried cynnal ymgynghoriad ehangach ar y mater hwnnw yn  ...  view the full Cofnodion text for item 29