Mater - cyfarfodydd

Review of Highway and Car Park Safety Inspections, Intervention Criteria and Response Times Policy

Cyfarfod: 20/11/2018 - Cabinet (eitem 267)

267 Adolygu Archwiliadau a Lefelau Ymyrraeth Diogelwch Priffyrdd a Meysydd Parcio ac Ymateb i’r Polisi pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        Adolygu’r Polisi uchod yn unol â’r canllawiau cenedlaethol diwygiedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad Polisi Adolygu Archwiliadau Priffyrdd a Meysydd Parcio, Meini Prawf Ymyrraeth ac Amseroedd Ymateb a gyflwynwyd yn dilyn gweithredu'r Cod Ymarfer newydd yn Hydref 2018.

 

            Roedd y Polisi Archwiliadau Priffyrdd a Meysydd Parcio yn diffinio cyfnodau archwiliadau diogelwch ar gyfer dosbarthu bob ffordd gerbydau, troedffordd, ffordd feiciau a maes parcio a gynhelir gan y Cyngor, ac fe ddiffiniodd y meini prawf adnabod hefyd a'r amserlenni ar gyfer cwblhau unrhyw waith adfer gofynnol.

 

             Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod archwiliadau diogelwch yn ffordd bwysig o gadw’r briffordd yn ddiogel ac yn hanfodol bwysig mewn achosion llys ar gyfer darparu tystiolaeth fod y Cyngor ag agwedd gyfrifol o ran ei ddyletswyddau fel Awdurdod Priffyrdd.  Pe bai aelod o’r cyhoedd yn cael damwain y gellir ei neilltuo i gyflwr darn o’r briffordd, yna roedd yr Awdurdod Priffyrdd yn atebol i dalu iawndal oni bai y gallai brofi ei fod wedi cymryd gofal rhesymol i gadw'r briffordd yn ddiogel.  Rhaid rheoli nifer yr hawliadau gan eu bod ag effaith ar gyllidebau cynnal a chadw’r briffordd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Polisi Archwiliadau Priffyrdd a Meysydd Parcio, yn amlinellu dull y Cyngor i bob archwiliad diogelwch, meini prawf adnabod diffygion ac amseroedd ymateb.