Mater - cyfarfodydd

Review of Highway and Car Park Safety Inspections and Intervention Levels and Response to Policy.

Cyfarfod: 16/10/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 22)

22 Adolygu Archwiliad a Lefel Ymyrraeth Diogelwch Priffyrdd a Meysydd Parcio ac Ymateb i’r Polisi pdf icon PDF 94 KB

Adolygu’r polisi uchod yn unol â’r canllawiau cenedlaethol diwygiedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad i adolygu’r Polisi uchod yn unol â’r canllawiau cenedlaethol diwygiedig yn dilyn gweithredu’r cod ymarfer newydd ym mis Hydref 2018. Rhoddodd wybodaeth gefndir a rhoddodd sylw ar gydnabyddiaeth yn y cyhoeddiad cyllideb diweddar o bwysigrwydd y rhwydwaith priffyrdd a darparu twf cynaliadwy ac economaidd a dywedodd y byddai cyllid 3 blynedd ar gael i ailwynebu ffyrdd. Roedd y Prif Swyddog wedi gwahodd Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd i roi trosolwg o’r prif ystyriaethau, fel y nodwyd yn yr adroddiad. 

 

Rhoddodd y Cynghorydd Mike Peers sylw at ddyletswydd statudol y Cyngor fel ‘Awdurdod y Briffyrdd’ i gynnal priffyrdd sydd wedi’u mabwysiadu gan gynnwys strwythurau priffyrdd o fewn y Sir, a’r posibilrwydd i hawliau godi yn erbyn y Sir gan ddefnyddwyr priffyrdd oherwydd anaf bersonol neu golled yn codi o ddigwyddiadau neu ddamweiniau oherwydd nad yw dyletswyddau wedi’u cadw atynt. Dywedodd bod rhaid i ddiogelwch y cyhoedd fod yn flaenoriaeth a nid ‘dosbarth’ y ceudyllau. Gofynnodd os oedd yr Awdurdod yn cyfeirio at ei adroddiadau archwilio wrth ddelio â hawliau sy’n codi o ddigwyddiadau neu ddamweiniau a oedd wedi digwydd ar y rhwydwaith priffyrdd a fabwysiadwyd, ac a oeddynt ar gael i’r Aelodau eu gweld.  

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers i'r polisi arfaethedig i archwiliadau diogelwch priffyrdd a meysydd parcio, meini prawf ymyriadau ac amseroedd ymateb a oedd wedi'u hatodi yn yr adroddiad. Dywedodd bod y meini prawf adnabod diffygion a mynegodd bryderon bod y categori lle byddai diffygion yn ddibynnol ar ddehongliad. Dywedodd bod angen darparu mwy o fanylion ar y categori coch.

 

Mynegodd y Cynghorydd Peers bryderon ynghylch amseroedd ymateb ac i roi adborth ar faterion a godwyd gan Aelodau a phreswylwyr mewn perthynas â  diffygion, a rhoddodd enghraifft o ddiffyg a oedd wedi’i riportio am geudwll ar ei Ward. Tynnodd sylw at amser ymateb a nodwyd yn y polisi arfaethedig. Ymatebodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd i’r ymholiadau a godwyd gan y Cynghorydd Peers, ac eglurodd bod yr asesiadau risg yn cael eu cyflawni gan y Cydlynydd Ardal Strydwedd yn unol â’r cod ymarfer. Cytunodd i ddarparu cofnodion ar sail pob achos i Cynghorydd Peers. Gofynnodd Cynghorydd Peers bod y Cydlynydd Ardal Strydwedd yn darparu diweddariadau rheolaidd i’r Aelodau ar gyflwr y ffyrdd, llwybrau cerdded a meysydd parcio yn eu Wardiau.  

 

Gofynnodd y Cynghorydd Paul Shotton os dylid rhoi ystyriaeth at ddefnydd o drôn i gynorthwyo Cydlynwyr Ardal Strydwedd i gyflawni eu harchwiliadau diogelwch neu i atgyweirio ceudyllau. Cadarnhaodd y Prif Swyddog bod cyfarpar electronig yn cael ei ddefnyddio yn barod i gynorthwyo archwiliadau diogelwch a chytunodd i edrych ar y defnydd posibl o drôn.

 

Gan gyfeirio at archwiliadau o strwythurau a waliau cynnal, soniodd y Cynghorydd David Evans ar y broblem o reiliau wedi’u torri a gofynnodd os oedd hyn yn cael ei gynnwys yn yr archwiliadau. Hefyd dywedodd nad oedd unrhyw amserlenni wedi’u nodi yn y polisi arfaethedig ar gyfer atgyweirio neu amnewid unrhyw ddiffygion a nodwyd yn ystod yr archwiliad o’r strwythurau a’r waliau. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Evans at y meini prawf  ...  view the full Cofnodion text for item 22