Mater - cyfarfodydd

Internal Audit Progress Report

Cyfarfod: 15/02/2019 - Pwyllgor Archwilio (eitem 49)

49 Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol pdf icon PDF 90 KB

Cyflwyno diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd yr Adran Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd y wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â’r cynnydd yn yr adran Archwilio Mewnol, gan gynnwys newidiadau yn y cynllun archwilio, olrhain camau gweithredu ac ymchwiliadau.

 

Nid oedd yr un adroddiad a gwblhawyd ers y cyfarfod diwethaf yn cynnwys dyfarniadau Coch, a chafwyd ymateb rheolaethol boddhaol i’r materion a nodwyd yn yr unig adroddiad oedd â dyfarniad Coch/Melyn.  Rhannwyd gwybodaeth am lefelau sicrwydd cronnol fesul portffolio, yn unol â’r cais a wnaethpwyd yn y gweithdy hwyluso.

 

O ran olrhain camau gweithredu, cytunodd Sally Ellis â’r awgrym y dylid cyfeirio’r rhai hynny o’r 16 cam gweithredu ar ôl na chafwyd ymateb iddynt at dîm y Prif Swyddogion yn gyntaf.  Gofynnodd am sicrwydd y câi’r camau gweithredu yn yr adroddiad Melyn/Coch ar gyfer y Rhaglen Strategol Tai ac Adfywio eu monitro, neu fel arall eu bod yn dod gerbron y cyd-gyfarfod â Throsolwg a Chraffu er trafodaeth.

 

Holodd y Cynghorydd Peers pam fod yr archwiliad Gorfodi Cynllunio’n dal yn Goch yn sgil penodi dau Swyddog Gorfodi a’r drafodaeth a gafwyd yn y Gr?p Strategaeth Cynllunio.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys y sgôr risg gwreiddiol er mwyn cynorthwyo’r Aelodau i olrhain materion o flaenoriaeth fawr a gweithredu yn eu cylch.  Mynegodd y Cynghorydd Dolphin bryderon y byddai angen mwy o adnoddau i fynd i’r afael â’r ôl-groniad gwaith.  Mynegodd y Cynghorydd Wooley bryderon tebyg yngl?n â’r gallu i gyflawni.  Roedd yr adran Archwilio Mewnol yn fodlon y câi’r risg ei reoli ac y byddai’r statws Coch gwreiddiol yn aros hyd oni chwblheid yr holl gamau gweithredu.  Roedd y Prif Swyddog yn cydnabod y gallai prosesau cyfreithiol fod yn gymhleth, ond roedd yn ffyddiog y deuid i gasgliadau.  Byddai gwaith monitro’n parhau er mwyn sicrhau y gwneid cynnydd mesuradwy er mwyn lleihau’r ôl-groniad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Johnson na ddylai enwau swyddogion ymddangos yn yr adroddiadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad.