Mater - cyfarfodydd

Action Tracking

Cyfarfod: 13/12/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 66)

66 Olrhain Gweithred pdf icon PDF 67 KB

Pwrpas:        Hysbysu’r Pwyllgor am gynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod diwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad cynnydd ar gamau gweithredu yn codi o gyfarfodydd blaenorol, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai’r ddau gam ar eitem Cynllun y Cyngor o gyfarfod mis Medi yn cael eu datrys yn y cyfarfod nesaf fis Ionawr.  Yr amrywiaeth llawn o fesuryddion perfformiad ar gyfer Trosolwg a Chraffu a'r darlun o'r cylch cynllunio ar gyfer cynllunio ariannol, busnes a pherfformiad oedd y rhain.

 

Cytunodd y Cynghorydd Jones y gellid dileu'r cam gweithredu oedd heb ei gyflawni ar adroddiad diwedd blwyddyn Cynllun y Cyngor, gan fod gwaith yn cychwyn ar Gynllun y Cyngor 2019/20.

 

Ar gamau gweithredu heb eu cyflawni o fis Gorffennaf a Medi, gofynnodd y Prif Weithredwr i Aelodau aros am fanylion Setliad Terfynol Llywodraeth Leol ar gydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru o’r pwysau o ran cost ar gyfer Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir cyn penderfynu a ddylid cysylltu â Llywodraeth Cymru eto am gyllid pellach.  Roedd cynllun gweithredu manwl ar ymatebion swyddogion i Aelodau – ar eu gwaith achos a chwynion – wedi ei rannu gydag Arweinyddion Gr?p yn dilyn Rhybudd o Gynnig i’r Cyngor, cyn cyflwyno adroddiad llawn i’r Pwyllgor fis Ionawr.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Heesom pe gellid rhannu adroddiadau pellach ar Bont Sir y Fflint.  Amlygodd bwysigrwydd integreiddio cludiant strategol er mwyn cefnogi’r Cais Twf rhanbarthol a’r angen i hyn gael ei adlewyrchu yn adran Cyngor Uchelgeisiol Cynllun y Cyngor.  Dywedodd y Prif Weithredwr nad y Cyngor sy’n gyfrifol am bolisi Llywodraeth Cymru ar lwybrau cludiant a bod penderfyniadau cyllido gan Lywodraeth Cymru y tu allan i’r Cais Twf.  Byddai’n sefydlu amseru yr adroddiad cylchol nesaf ar y bont a’i rannu maes o law.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyfeiriwyd at yr adroddiad ar Metro Gogledd Ddwyrain Cymru oedd yn gysylltiedig â datrysiad trafnidiaeth integredig y Cyngor ac roedd wedi ei ohirio o gyfarfod diweddar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylcheddol.  Byddai ystyried yr eitem honno fis Ionawr yn rhoi cyfle i Aelodau rannu unrhyw bryderon gyda chynrychiolwyr Trafnidiaeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.