Mater - cyfarfodydd

National Budgets Update; Implications and Updated Local Forecast

Cyfarfod: 15/11/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 56)

(i) Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y CYLLIDEBAU CENEDLAETHOL; GOBLYGIADAU A'R RHAGOLYGON LLEOL DIWEDDARAF

Pwrpas:        Derbyn cyflwyniad gan y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar safle’r gyllideb genedlaethol a’r goblygiadau.

Cofnodion:

(ii) CYLLIDEB 2019/20 – CYNIGION CAM 1 - CYLLID CORFFORAETHOL

 

(iii) CYLLIDEB 2019/20 – CYNIGION CAM 2 – YR HOLL BORTFFOLIOS

 

(iv) CYLLIDEB 2019/20 – CYNIGION CAM 2 – GWASANAETHAU CORFFORAETHOL

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad ar y cyd ar broses y gyllideb flynyddol a oedd yn cynnwys y meysydd canlynol:

 

·         Cyflwyniad a phwrpas yr adroddiadau cyllid

·         Cam 1 Cyllideb 2019/20

o   Datrysiadau’r gyllideb gorfforaethol

·         Cam 2 Cyllideb 2019/20

o   Crynodeb o gynigion cynllun busnes ar lefel portffolio

o   Cynigion cynllun busnes gwasanaethau corfforaethol

·         Y wybodaeth ddiweddaraf ar sefyllfa’r gyllideb genedlaethol

·         Datganiadau Cyllideb DU y Canghellor

·         Rhagolwg y gyllideb leol wedi’i ddiweddaru 2019/20

·         Dewisiadau ac opsiynau strategol

o   Crynodeb o sefyllfa gyllidebol Cymru

o   Adborth sesiynau’r gweithlu

o   #CefnogiGalw – sefyllfa ymgyrchu a’r drafodaeth gyhoeddus

o   #EinDiwrnod 20 Tachwedd

·         Y camau nesaf a therfynau amser

 

Roedd Cam 1, a ddaeth i ben, yn cynnwys datrysiadau ar gyfer cyllid corfforaethol a'r costau ar gyfer y sefydliad cyfan fel y nodwyd yn yr adroddiad.   Roedd rhan o’r cyfanswm o £7.937m yn isafswm o gynnydd Treth y Cyngor o 4.5% ac roedd at ddibenion dangosol ar y cam hwn, net y Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor.   Roedd gostyngiadau ar gyfer cymorthdaliadau Model Darparu Amgen (ADM) wedi’u cynnwys yng nghynlluniau busnes y sefydliadau hynny.   Rhannwyd datganiadau dull ategol ar gyfer pob cynnig, ag eithrio’r gostyngiad yn swyddi rheoli corfforaethol a’r ffrydiau incwm newydd lle bo’r gwaith yn parhau, a’r adolygiad anomaleddau cludiant a oedd yn adlewyrchu canlyniadau penderfyniadau blaenorol ar hawl i gludiant.

 

Roedd cynigion Cam 2 yn cynnwys penderfyniadau gan bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a oedd wedi adolygu eu portffolios perthnasol.   Roedd y pwysau o ran costau, buddsoddiadau ac arbedion effeithlonrwydd yn cael eu hargymell i’w mabwysiadu heb eithriad.   Gydag incwm ac arbedion effeithlonrwydd lleihau'r gweithlu / swyddi wedi'u targedu wedi'u nodi mewn man arall yn y strategaeth, byddai cyfanswm cynigion effeithlonrwydd portffolio'r cynllun busnes yn cyfrannu £0.630m i'r bwlch a ragwelwyd yn y gyllideb.   Roedd hyn yn cynnwys cyfanswm o £0.360m ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol a chrynhodd y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog (Llywodraethu) eu meysydd perthnasol.

 

Eglurwyd y byddai unrhyw adborth gan y Pwyllgor yn cael ei rannu gyda'r Cabinet wrth ystyried mabwysiadu'r cynigion ar gyfer Camau 1 a 2, cyn eu cyflwyno i'r Cyngor Sir.

 

Yn ystod diweddariad ar sefyllfa’r gyllideb genedlaethol gan y Prif Weithredwr, atgoffwyd yr Aelodau bod Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol yn nodi gostyngiad o 1% yng Nghyllid Allanol Cyfun (AEF) ar gyfer Sir y Fflint a oedd yn gyfystyr â £1.897m ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau tuag at ddyfarniad cyflog athrawon cenedlaethol a chynnydd mewn galw am brydau ysgol am ddim.

 

Ers adrodd am y rhagolwg o £13.7m o fwlch yn y gyllideb ym mis Medi, roedd nifer o newidiadau i bwysau a phwysau ychwanegol wedi arwain at fwlch cyllidebol diwygiedig o £13.9m.   Byddai effaith y gostyngiad mewn arian yn AEF a gweithrediad cynigion Cam 1 a 2 yn gadael bwlch cyllidebol o £6.7m ar gyfer 2019/20.

 

Eglurodd y  ...  view the full Cofnodion text for item 56