Mater - cyfarfodydd

People Strategy 2016-2019 Update

Cyfarfod: 15/11/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 59)

59 Adroddiad perfformiad Strategaeth Pobl pdf icon PDF 102 KB

Pwrpas:        Cael y wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Pobl.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Pobl 2016-2019 gyda chrynodeb o’r pum blaenoriaeth strategol allweddol ar gyfer gweddill 2018/19.

 

Yn ystod 2017/18, gwnaed cynnydd da o ran darparu Strategaeth Prentisiaeth,  tuedd ar i lawr ar gyfer lefelau absenoldeb salwch a gwella’r cynnig dysgu a datblygu.   Fel un o’r blaenoriaethau allweddol ar gyfer 2018/19, gwnaed gwaith sylweddol i gyflawni model cyflog cyfartal a chynaliadwy.

 

Wrth groesawu’r adroddiad cadarnhaol, holodd y Cynghorydd Jones am y posibilrwydd o gyflawni’r targed 100% ar gwblhau’r gwerthusiad.   Darparodd yr Uwch Reolwr sicrwydd bod lefel uchel o her i Brif Swyddogion i gyflawni hyn, ac er bod rhai portffolios yn agos at gyflawni'r targed, gallai'r gwahaniaeth o ran maint y portffolios amharu ar y ffigyrau.

 

Cafwyd trafodaeth ar yr awgrym y dylai Prif Swyddogion fynychu cyfarfodydd yn y dyfodol i egluro'r rhesymau dros beidio â chyflawni'r targed; ymarfer a fabwysiadwyd yn llwyddiannus yn y Pwyllgor Archwilio.   Holodd y Cynghorydd Jones a fyddai modd rhoi hyn ar waith erbyn y diweddariad nesaf yng nghyfarfod mis Ionawr.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi adroddiad perfformiad Strategaeth Pobl a'r cynnydd a nodwyd;

 

(b)       Diolch i'r Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol am ei gwaith ar yr adroddiad; a

 

(c)       Bod y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei darparu ym mis Ionawr a bod unrhyw Brif Swyddogion yn bresennol i egluro'r rhesymau os nad yw eu meysydd wedi cyflawni 100%.