Mater - cyfarfodydd
Conduct and Convictions of a Private Hire / Hackney Carriage (Joint) Driver
Cyfarfod: 08/10/2018 - Is-bwyllgor Trwyddedu (eitem 4)
Ymddygiad a Chosfarnau am Drwydded Yrru / Cerbyd Hacnai (ar y Cyd) Preifat
Pwrpas: I’rAelodau ystyried ymddygiad gollfarnau diweddar Gyrrwr Hurio / Cerbyd Hacnai (ar y Cyd), a phenderfynu a yw’n parhau I fod yn berson addas a phriodol I barhau I ddal y drwydded.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (4/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (4/3)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (4/4)
- Restricted enclosure 5 , View reasons restricted (4/5)
- Restricted enclosure 6 , View reasons restricted (4/6)
- Restricted enclosure 7 , View reasons restricted (4/7)
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd y gyrrwr i’r cyfarfod. Cyflwynodd aelodau’r Is-bwyllgor ac eglurodd y drefn ar gyfer y gwrandawiad, gan gynnwys sut y byddai’r cais yn cael ei benderfynu.
Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr adroddiad ar Ymddygiad ac Euogfarnau Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd), gan gynnwys y rhesymau pam ei fod yn cael ei gyflwyno ger bron yr Is-bwyllgor.
Gofynnodd y Cadeirydd, aelodau’r Is-bwyllgor a’r Cyfreithiwr gwestiynau i’r ymgeisydd mewn perthynas â dwy euogfarn y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, ac fe ymatebodd yntau.
Gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i wneud sylwadau. Rhoddodd fanylion llawn yr euogfarnau, gan gynnwys y rheswm pam na roddodd wybod amdanynt o fewn 7 niwrnod i’w derbyn. Rhoddodd fanylion hefyd am ei waith presennol a’r ffaith fod ei gyflogwyr yn ei gefnogi.
Mewn ymateb i gwestiynau gan yr Is-bwyllgor, eglurodd y gyrrwr agweddau ar ei euogfarnau, gan gynnwys manylion ei fywyd personol.
Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon y gofynnwyd yr holl gwestiynau perthnasol, gofynnodd i’r gyrrwr ac Arweinydd y Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod tra bod yr Is-bwyllgor yn dod i benderfyniad.
Penderfyniad
Wrth benderfynu ar y cais, ystyriodd yr Is-bwyllgor y sylwadau a wnaed ac amgylchiadau'r euogfarnau a amlinellwyd yn yr adroddiad. Teimlai’r Is-bwyllgor fod y gyrrwr yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).
Gwahoddwyd Arweinydd y Tîm Trwyddedu a’r gyrrwr yn ôl er mwyn ailgynnull y cyfarfod a rhoi gwybod am y penderfyniad.
PENDERFYNWYD:
Bod y gyrrwr yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 ac y dylid caniatáu’r Drwydded.