Mater - cyfarfodydd

Adjudication Panel for Wales Sanctions Guidance

Cyfarfod: 01/10/2018 - Pwyllgor Safonau (eitem 22)

22 Canllawiau Sancsiynau Panel Dyfarnu Cymru pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys y Canllawiau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad ar ganllawiau sancsiynau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Banel Dyfarnu Cymru, i’w defnyddio pan fyddai tribiwnlys achos neu dribiwnlys apêl yn canfod fod cynghorydd wedi torri Cod Ymddygiad Aelodau.  Manylwyd ar bum pwrpas y canllaw yn ogystal â’r dull gweithredu pum cam ar gyfer penderfynu ar gosb.

 

Wrth gofio trafodaeth yn y Gynhadledd Safonau, eglurodd y Swyddog Monitro mai er mai nifer fechan o achosion sy’n cyrraedd y cam tribiwnlys, roedd amrywiaeth ehangach o sancsiynau addas ar gael i’w defnyddio yn Lloegr.  Tra na allai Panel Dyfarnu Cymru ymgyrchu dros newid i ddedfwriaeth yng Nghymru, roedd yn bosib y gallai cyngohrau wneud eu sylwadau eu hunain.  Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai cyflwyno'r Bil Llywodraeth Leol (Cymru) y flwyddyn nesaf yn rhoi cyfle i fabwysiadu newid o’r fath ac y gallai'r Pwyllgor, pe dymunent, ystyried ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i roi sylwadau ar hyn.

 

Wrth gynnig yr awgrym hwn fel argymhelliad ychwanegol, dywedodd y Cynghorydd Woolley y gallai rhoi mwy o opsiynau i baneli o ran sancsiynau leihau'r broses.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys y canllawiau;a

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r amrywiaeth o sancsiynau a hyblygrwydd sy'n bodoli yn Lloegr drwy ysgrifennu at Lywodraeth Cymru.