Mater - cyfarfodydd
Information report - Update on Greenfield Valley Heritage Park
Cyfarfod: 16/10/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 25)
Adroddiad Gwybodaeth – y wybodaeth ddiweddaraf ar Barc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas
Pwrpas: Derbyn adroddiad ar gynnydd.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (25/2)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) adroddiad i ddarparu diweddariad ar y sefyllfa cyfredol o Barc Treftadaeth Maes Dyffryn Glas. Rhoddodd gwybodaeth gefndir ac atgyfeiriodd at yr ystyriaethau allweddol, fel y nodir yn yr adroddiad, a chynnydd ar yr argymhellion Archwiliad Mewnol Sir y Fflint fel y nodwyd yn atodiad i’r adroddiad. Rhoddodd wahoddiad i Reolwr Yr Amgylchedd a Mynediad i roi diweddariad ar weithrediadau safle.
Soniodd Rheolwr Yr Amgylchedd a Mynediad am weithgareddau addysgiadol a gyflawnwyd gan 12 ysgol yn ystod tymor yr Haf, a dywedwyd bod mwy na 100 o ddigwyddiadau wedi’u cynnal y tymor hwn. Rhoddodd sylw i gynnydd yn y nifer o ymwelwyr a diddordeb ar gyfryngau cymdeithasol, ac eglurodd bod y gwelliant o gyflwyniad cyffredinol a safonau cynnal a chadw wedi arwain at Faes Dyffryn Glas i gael Gwobr Greenflag, a chael safon ymwelwyr aur gan Croeso Cymru.
Cyfeiriodd y Rheolwr Yr Amgylchedd Naturiol a Mynediad at waith gwella ac atgyweirio, ac arwyddion newydd a oedd wedi'u cyflawni a'u gosod ar lwybrau cerdded, llwybrau coetir, llwybrau blaenoriaeth a stepiau. Dywedodd bod arolwg defnyddwyr o gynnig Chwarae o fewn y safle wedi’i gwblhau yn ystod yr Haf, a bydd y canlyniadau yn cael eu dadansoddi yn ystod yr Hydref. Hefyd roedd cyfarfodydd wedi’u cynnal â’r Tîm Teithio Llesol i drafod y posibilrwydd o lwybr aml-ddefnydd drwy’r Dyffryn. Roedd Sustrans hefyd yn cyflawni astudiaeth ddichonoldeb o lwybrau posibl.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r diweddariad.