Mater - cyfarfodydd

Clwyd Pension Fund Accounts 2017/18.

Cyfarfod: 05/09/2018 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 18)

18 Cyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd 2017/18. pdf icon PDF 82 KB

I dderbyn Cyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd 2017/18 yn eu ffurf derfynol a sydd wedi eu harchwilio i’w cymeradwyo, gan gynnwys adroddiad yr archwilwyr allanol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd Mr Ferguson yr eitem hon ar yr agenda, gan nodi’r camau gweithredu i’r Pwyllgor. Bellach roedd hi'n ofynnol adrodd ynghylch cyfrifon y Gronfa ar wahân i gyfrifon y Cyngor Sir. Roedd angen cymeradwyaeth aelodau’r Pwyllgor ar gyfer cyfrifon terfynol y Gronfa.

 

            Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi cwblhau’r rhan helaeth o’r archwiliad, ond nododd Mr Ferguson y byddai angen eu cadarnhau wedi hynny. Cyflwynwyd y farn archwilio ffurfiol yn yr argymhellion a’r canfyddiadau allweddol. Ar y cyfan, roedd Adroddiad Archwilio Swyddfa Archwilio Cymru’n un cadarnhaol, ac roedd yr holl faterion o’r llynedd wedi'u datrys.

 

            Cadarnhaodd Swyddfa Archwilio Cymru fod cyfrifon y Gronfa yn rhoi darlun cywir a theg, gan ddiolch i dîm yn gronfa bensiynau am yr holl gymorth. Cyflwynont yr adroddiad gan amlygu’r materion allweddol canlynol:

 

  • Roedd cyfrifon y Gronfa’n ddogfen ar ei phen ei hun bellach, ac fe’u cwblhawyd bythefnos yn gynt eleni.

Roedd hynny’n gam tuag at y terfyn amser ar 31 Mai a ddeuai i rym yn 2021.

  • Ar dudalen 54 nodwyd fod gan aelod o’r tîm archwilio berthnasau oedd yn aelodau o’r gronfa bensiynau, ond lliniarwyd ar y risg hwnnw.
  • Atodiad 1 – nid oedd y Llythyr Sylwadau yn cynnwys cais am unrhyw sylwadau ychwanegol gan y Pwyllgor.
  • Atodiad 2 oedd adroddiad arfaethedig yr archwilwyr.

Cyhoeddid y farn wedi cael cymeradwyaeth y Pwyllgor.

  • Roedd Atodiad 3 yn dangos y cywiriadau a wnaethpwyd yn y datganiadau ariannol drafft.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Llewelyn Jones am eglurhad ynghylch y gwasanaethau asiantaeth yn nodyn 21 ar dudalen 43.

 

Cadarnhaodd Mrs Fielder mai Blynyddoedd Ychwanegol i Wneud Iawn oedd y rhain, a fyddai'n cael eu hawlio'n ôl bunt am bunt gan y cyflogwyr.  

 

Cytunodd y Pwyllgor â’r argymhellion a diolchodd Mr Everett i bawb am eu gwaith wrth gau'r cyfrifon.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod yr Aelodau’n ystyried Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Archwilio Datganiadau Ariannol, ynghyd â’r Llythyr Rheoli.

 (b)      Bod yr Aelodau’n cymeradwyo’r fersiwn terfynol o’r Datganiad Cyfrifon ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18;

 (c)       Bod yr Aelodau’n cymeradwyo’r Llythyr Sylwadau i Gronfa Bensiynau Clwyd.