Mater - cyfarfodydd

REVENUE BUDGET MONITORING 2018/19 (MONTH 11)

Cyfarfod: 11/04/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 105)

105 Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (Mis 11) pdf icon PDF 68 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2018/19 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 11 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw fel yr oedd ym Mis 11 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai cyn i’r Cabinet ei ystyried.  Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, a ni ddisgwylir i’r sefyllfa alldro sydd i'w adrodd ym mis Gorffennaf newid yn sylweddol oni bod newidiadau hwyr ar lefelau galw ar wasanaethau.

 

Ar Gronfa’r Cyngor, roedd arian dros ben gweithredol o £0.931m a oedd yn symudiad cadarnhaol o £0.188m o’i gymharu â’r mis blaenorol.  Roedd gwaith yn cael ei wneud ar gau'r gyfrifon, roedd y risgiau o newidiadau sylweddol i'r alldro wedi lleihau.  Amcangyfrifwyd y byddai 96% o arbedion a gynlluniwyd yn y flwyddyn wedi’u cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Gan edrych ar Arian At Raid a balansau, roedd angen ystyried y tanwariant arfaethedig cyfredol a dyraniadau a gytunwyd yn flaenorol, rhagwelwyd bod y balans yr Arian wrth Gefn i fod yn £8.715m.  Fel y cytunwyd yn flaenorol gan y Cyngor, roedd y swm yn cael ei ddefnyddio i gau'r bwlch cyllideb ar sail unwaith yn lleihau’r cyfanswm balans sydd ar gael o £6.494m.  Bydd gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r dyraniadau o’r Gronfa Hapddigwyddiad i fuddsoddi mewn newid a’r gofyniad newydd i weithredu Corff Cymeradwyo System Draenio Cynaliadwy fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Wrth geisio cadarnhad ar amrywiant cyllideb, dywedodd y Cynghorydd Heesom ei fod yn hanfodol bod dadansoddiad o wariant portffolio a oedd wedi’i atodi i’r adroddiad wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol.  Siaradodd y Prif Weithredwr ynghylch yr effaith ar adnoddau i ddefnyddio dull tebyg, a bod yr ymarfer ar gyfer pob Pwyllgor i gael gwybodaeth arbedion effeithlonrwydd a phwysau o fewn eu portffolio perthnasol yn ychwanegol i faterion cyllideb yn codi fel rhan o adrodd rheolaidd ar berfformiad.  Os oedd pryderon ynghylch pwnc penodol, roeddynt yn cael eu hatgyfeirio i'r Pwyllgor perthnasol neu wneud cais i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol fel yr oedd wedi cael ei wneud yn flaenorol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Heesom am ddadansoddiad diweddar o wariant Cyllid Corfforaethol a Chanolog.  Dywedodd y Prif Weithredwr y bydd adroddiad yn y dyfodol yn cael ei drefnu ar gyfer y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

Mewn ymateb i ymholiad y Cynghorydd Bateman ar gyllidebau dirprwyedig ysgolion, bydd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yn darparu manylion ar y canran a ddyrannwyd i gyflogau gweithwyr sef y gyfran uchaf o'r cyllidebau hynny.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Heesom ac eiliwyd gan y Cynghorydd Johnson

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r argymhellion yn yr adroddiad Cabinet ar gyfer 16 Ebrill ac yn cadarnhau nad oes unrhyw bryderon eraill y mae'n dymuno eu cyflwyno i'r Cabinet y mis hwn.