Mater - cyfarfodydd

2018/19 Revenue Budget Monitoring Reports (Month 7)

Cyfarfod: 13/12/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 71)

71 Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (Mis 7) pdf icon PDF 68 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2018/19 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 7 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw fel yr oedd ym Mis 7 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai cyn i’r Cabinet ei ystyried ar 18 Rhagfyr 2018..

 

O ran Cronfa'r Cyngor, roedd y diffyg gweithredol wedi cynyddu o £0.103 miliwn i £0.325 miliwn.  Roedd y prif newidiadau’n ymwneud â Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir, cyfraniad incwm y Bwrdd Iechyd ac effaith cofrestru’n awtomatig ar gyfer y Gronfa Bensiynau.

 

Amcangyfrifwyd y byddai 97% o arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn cael eu cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Yr amcangyfrif balans diwedd blwyddyn ar Gronfeydd wrth gefn Arian at Raid oedd £5.447 miliwn, ar ôl cytuno i ddefnyddio £1.900 miliwn i gau’r bwlch yn y gyllideb fel y cytunwyd fel rhan o ddatrysiadau cyllideb Cam 1.  Roedd crynodeb o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn dangos gostyngiad parhau gydag amcangyfrif diwedd blwyddyn o £11.096 miliwn.

 

Nid oedd newid yn yr HRA lle y rhagwelwyd y byddai'r gwariant o fewn y flwyddyn yn £0.067 miliwn yn is na'r gyllideb, gan adael balans diwedd blwyddyn o £1.165 miliwn. 

 

Yn dilyn trafodaeth ar yr eitem flaenorol, cynigiodd y Cynghorydd Jones bod y cyllidebau ar gyfer Strydwedd a Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir yn cael eu hamlygu i’r Cabinet fel dau faes pryder ar gyfer adolygu parhaol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r argymhellion a wnaed yn adroddiad y Cabinet ar gyfer 18 Rhagfyr ar Fonitro’r Gyllideb Refeniw 2018/19 (Mis 7) ac yn cadarnhau mai’r meysydd pryder yr hoffent i'r Cabinet eu hadolygu yw cyllidebau Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir a Strydwedd.