Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring 2018/19 (month 7)

Cyfarfod: 18/12/2018 - Cabinet (eitem 283)

283 Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (mis 7) pdf icon PDF 145 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2018/19 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 7 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (mis 7), a oedd yn nodi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r gyllideb refeniw yn 2018/19 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.  Roedd yr adroddiad yn cyflwyno sefyllfa’r flwyddyn ariannol, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym Mis 7, os nad oedd unrhyw newidiadau.

           

            Y sefyllfa a ragwelid ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw ariannol ar gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

 

·         Diffyg gweithredol o £0.325 miliwn (£0.222 miliwn ym Mis 6); a

·         Balans disgwyliedig yn y gronfa at raid ar 31 Mawrth 2019 o £7.347 miliwn a ostyngodd i £5.447 miliwn wrth ystyried y cyfraniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer cyllideb 2019/20.

 

Cyfrif Refeniw Tai

 

·         Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £67,000 yn is na’r gyllideb; a

·         Balans terfynol disgwyliedig ar 31 Mawrth 2019 yn £1.165 miliwn.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys sefyllfa ragamcanol Cronfa'r Cyngor; sefyllfa ragamcanol yn ôl portffolio; lleoliadau y tu allan i’r sir; gwasanaethau anableddau – cyfraniadau iechyd; cyfraniadau cyflogwr i'r Gronfa Bensiynau; olrhain risgiau yn ystod y flwyddyn a materion sy'n dod i'r amlwg; cyflawni arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn; risgiau eraill a gaiff eu holrhain; ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol; incwm; incwm o ailgylchu; ysgolion – risgiau ac effeithiau; materion eraill yn ystod y flwyddyn; cronfeydd wrth gefn a balansau; a chronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi.

 

Ar wahân i’r wybodaeth a nodir yng nghofnod rhif 274 (gwybodaeth am Leoliadau y Tu Allan i'r Sir a Strydwedd fel dau faes o orwariant parhaus flwyddyn ar ôl blwyddyn), nid oedd unrhyw sylwadau eraill gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol i’w hadrodd.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2019; a

 

 (b)      Nodi lefel derfynol ddisgwyliedig y balansau ar y Cyfrif Refeniw Tai.