Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring 2018/19 (month 6)

Cyfarfod: 20/11/2018 - Cabinet (eitem 262)

262 Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (mis 6) pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2018/19 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 6 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad yngl?n â Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (mis 6) a oedd yn cyflwyno’r sefyllfa o ran monitro cyllideb refeniw diweddaraf 2018/19 ar gyfer Cronfa'r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.   Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym Mis 6 y flwyddyn ariannol, os oedd popeth yn aros yr un fath.

 

            Y sefyllfa a ragamcanwyd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran cost a/neu wella’r elw ariannol ar gynllunio effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

 

·         Diffyg gweithredol o £0.222 miliwn (£0.303 miliwn ym Mis 5); a

·         Rhagamcanir y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2019 yn £7.469 miliwn.

 

Cyfrif Refeniw Tai

 

·         Rhagwelir y bydd gwariant net yn ystod y flwyddyn yn £0.067 miliwn yn is na’r gyllideb; a

·         Rhagamcanir y bydd y balans terfynol ar 31 Mawrth 2019 yn £1.165 miliwn.

 

 Roedd yr adroddiad yn cynnwys sefyllfa ragamcanol Cronfa'r Cyngor; sefyllfa ragamcanol yn ôl portffolio; lleoliadau y tu allan i’r sir; olrhain risgiau yn ystod y flwyddyn a materion sy'n dod i'r amlwg; cyflawni arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn; risgiau eraill a gaiff eu holrhain; ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol; costau setliad ar gyfer cam-drin plant yn hanesyddol; incwm; incwm o ailgylchu; ysgolion - risgiau ac effaith; materion eraill yn ystod y flwyddyn; cronfeydd wrth gefn a balansau a chronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi.

 

Nid oedd unrhyw faterion wedi’u codi yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2019; a

 

(b)       Nodi'r lefel derfynol o falansau a ragamcanwyd ar y Cyfrif Refeniw Tai.