Mater - cyfarfodydd

Community Resilience

Cyfarfod: 17/09/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 21)

21 Gwytnwch Cymunedol pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        Darparu manylion pellach ar y Cynllun Gweithredu ar gyfer 2018/19 ymlaen, a chynnydd ar brif feysydd gwaith.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad i roi diweddariad i’r Aelodau ar gynnydd mewn meysydd gwaith allweddol mewn perthynas â blaenoriaeth Cymunedau Gwydn a oedd yn rhan o’r thema ‘Cyngor Cysylltiedig' yng Nghynllun y Cyngor.  Roedd cyfrifoldeb dros hyn bellach yn rhan o bortffolio’r Prif Swyddog ar ôl i Ian Bancroft adael.

 

Roedd twf y sector cyhoeddus trwy ddatblygu mentrau cymdeithasol a llwyddiant Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol a Modelau Cyflawni Amgen yn bwysig i helpu cymunedau i fod yn fwy gwydn a hunangynhaliol.  Rhoddwyd trosolwg o chwe thema Gwytnwch Cymunedol yr oedd camau gweithredu wedi'u nodi arnynt yng Nghynllun Cyflawni Lles 2018-23 y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Cyflwynwyd y Pwyllgor i Cher Lewney, y Rheolwr Cyflawni Rhaglenni – Cwsmeriaid Digidol a Gwytnwch Cymunedol, a ddosbarthodd sleidiau cyflwyniad a oedd yn nodi'r prif egwyddorion a chamau gweithredu ar gyfer pob thema.  Byddai’r rhain yn cael eu hategu drwy ddatblygu fframweithiau gwerthuso i helpu i reoli gwytnwch cymunedol ar draws y Sir.

 

Darparodd Emma Blacklock, Uwch-arweinydd Cymorth i Deuluoedd, ddiweddariad ar gynnydd o ran gweithgareddau ardal yn Holway a oedd yn galluogi’r Cyngor a’i bartneriaid i ymgysylltu â thrigolion a chael eu barn ar welliannau posib’ i’w hystadau.  Roedd digwyddiad arall wedi’i gynllunio at ddiwedd y mis i’w gysylltu â 'Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy’.

 

Rhannodd yr Uwch-reolwr (Plant a’r Gweithlu) wybodaeth am ddatblygiad y Rhaglen Arweinyddiaeth a oedd yn y camau cyntaf o gael ei phrofi.  Roedd wedi’i bwriadu ar gyfer unigolion a oedd yn gweithio gyda chymunedau i gefnogi sefydliadau'r sector cyhoeddus i gyflawni newid yn llwyddiannus.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Hutchinson am waith mewn ardaloedd, eglurodd y Prif Swyddog bod tair ardal wedi’i dewis yn seiliedig ar waith a gychwynnwyd yn flaenorol ac y byddai modd ystyried ardaloedd eraill dros amser.  Roedd y Cyngor yn arwain rhai o’r themâu ac roedd eraill yn gyfrifoldeb i bartneriaid fel Prifysgol Glynd?r ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

Wrth nodi Gwytnwch Cymunedol fel elfen allweddol o Gynllun y Cyngor, dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton bod enghreifftiau gwych o drosglwyddo asedau cymunedol.  Cyfeiriodd at y Cynllun Cyflawni Lles fel templed defnyddiol i roi sicrwydd am y gwaith a oedd yn cael ei wneud er budd y Sir gyfan.

 

Roedd y Cadeirydd yn cytuno a disgrifiodd y Cynllun fel offeryn defnyddiol i fonitro cynnydd.

 

Canmolodd y Cynghorydd Paul Shotton y rhaglen Llwglyd dros y Gwyliau a chroesawodd ddatblygu canolfannau bwyd i drechu tlodi bwyd.  Mewn ymateb i sylwadau am bwysigrwydd cysylltiadau ag Iechyd, cyfeiriodd yr Uwch-arweinydd Cymorth i Deuluoedd at hyrwyddo sgrinio iechyd mewn digwyddiadau cymunedol.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyflawni Rhaglenni bod swyddogion y Cyngor yn ymgysylltu â chynrychiolwyr Iechyd i drafod gwasanaethau ar y cyd a chyfeirio at fathau eraill o gymorth fel rhaglenni gweithgareddau cymunedol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Tudor Jones yngl?n â gweithgarwch yn Holway, eglurwyd bod pob un o’r 406 eiddo wedi derbyn gwybodaeth yn annog trigolion i gymryd rhan yn y gweithgareddau.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Mullin sylw hefyd ar lwyddiant y rhaglen Llwglyd dros  ...  view the full Cofnodion text for item 21