Mater - cyfarfodydd

Statement of Accounts 2017/18 and Supplementary Financial Information to Statement of Accounts 2017/18

Cyfarfod: 12/09/2018 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 38)

38 Datganiad Cyfrifon 2017/18 a'r Wybodaeth Ariannol Atodol i'r Datganiad Cyfrifon 2017/18. pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:  Cyflwyno fersiwn derfynol o Ddatganiad Cyfrifon 2017/18 i aelodau ar gyfer cymeradwyaeth a nodi’r wybodaeth ariannol atodol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Richard Harries a Mike Whiteley o Swyddfa Archwilio Cymru, Paul Vaughan, Rheolwr Cyllid Technegol dros dro a Richard Lloyd-Bithell, Cyllid Corfforaethol. 

 

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fersiwn derfynol Datganiad Cyfrifon 2017/18 i’w gymeradwyo wedi i’r Pwyllgor Archwilio ei ystyried cyn cyfarfod y Cyngor Sir heddiw. Roedd wedi cael ei gynghori bod yr adroddiad yn cynnwys Datganiad Llywodraethu Blynyddol a oedd wedi ei ystyried yn flaenorol gan y Pwyllgor Archwilio mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2018 ac roedd angen cymeradwyaeth y Cyngor arno.  

 

Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol mai 30 Medi oedd y dyddiad cau statudol blynyddol ar gyfer cymeradwyo’r Datganiad Cyfrifon blynyddol ar hyn o bryd , fodd bynnag y mae’r rheoliadau y mae’r Datganiad Cyfrifon yn cael eu paratoi oddi tanynt yn newid o flwyddyn ariannol 2018/19, sy’n golygu fod yn rhaid cymeradwyo’r cyfrifon erbyn 15 Medi. Paratowyd Datganiad Cyfrifon 2017/18 yn llwyddiannus erbyn y dyddiad cau cynharach hwn er mwyn paratoi ar gyfer 2018/19.  

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol at adroddiad 260 Swyddfa Archwilio Cymru ar Safon Ryngwladol ar Archwilio (ISA). Dywedodd fod yn rhaid i Swyddfa Archwilio Cymru gyfathrebu materion perthnasol yn ymwneud ag archwilio'r datganiadau ariannol i’r rheiny sy’n llywodraethu’r endid (Cyngor Sir Y Fflint ar gyfer Datganiadau’r Cyngor Sir).  Eglurodd bod yr adroddiad eleni ar ffurf cyflwyniad er mwyn ceisio gwella hygyrchedd, a bod copi o’r adroddiad wedi ei atodi at yr adroddiad. Parhaodd y Rheolwr Corfforaethol gan ddweud bod newidiadau a gytunwyd gyda Swyddfa Archwilio Cymru wedi eu gwneud i Ddatganiad Cyfrifon 2017/18 yn ystod yr archwiliad, a bod y newidiadau yn cael eu dangos yn atodiad 2 yr adroddiad. Eglurodd bod y newidiadau’n ymwneud â phwrpas datgelu yn unig ac nad oeddynt yn effeithio ar sefyllfa ariannol y Cyngor. 

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi adrodd bod y Datganiad Cyfrifon wedi ei baratoi i safon dda gyda phapurau gwaith cynhwysfawr wedi eu hatodi. Nodwyd rôl barhaus y Gr?p Llywodraethu Cyfrifon, sydd â throsolwg dros gynhyrchiad cyffredinol y Datganiad Cyfrifon, a’i fod wedi bod yn effeithiol am y 2 flynedd diwethaf.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod Llythyr Sylwadau Cyngor Sir Y Fflint at Swyddfa Archwilio Cymru wedi ei atodi i’r adroddiad a chadarnhaodd bod y wybodaeth yn y datganiadau ariannol yn wir ac yn gywir a bod yr holl wybodaeth wedi ei ddatgelu i’r archwilwyr. 

 

Cyflwynodd Mr Richard Harries, Arweinydd Ymgysylltu Archwiliad Ariannol ar gyfer Cyngor Sir y Fflint ei hun a'i gydweithiwr sef Mike Whiteley o Swyddfa Archwilio Cymru.  Rhoddodd Mr Harries gyflwyniad bras, ac yn wahanol i’r arfer, cyflwynodd adroddiad Safon Ryngwladol ar Archwilio 260 drwy gyfrwng cyflwyniad oedd yn cynnwys y prif bwyntiau canlynol:

 

·         canlyniad cyffredinol

·         Cyfrifoldebau’r Archwilydd Cyffredinol

·         sefyllfa’r archwiliad a materion yn codi o’r archwiliad

·         2018-19 a’r blynyddoedd dilynol

 

Wrth ddod a’i gyflwyniad i ben, crynhodd Mr  Harries y prif ganfyddiadau a dywedodd bod yr archwiliad wedi mynd yn dda ac nad oedd materion arwyddocaol oedd angen eu dwyn i sylw’r Cyngor. . Diolchodd i’r Rheolwr  ...  view the full Cofnodion text for item 38