Mater - cyfarfodydd
Statement of Accounts 2017/18 and Supplementary Financial Information to Statement of Accounts 2017/18
Cyfarfod: 12/09/2018 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 38)
38 Datganiad Cyfrifon 2017/18 a'r Wybodaeth Ariannol Atodol i'r Datganiad Cyfrifon 2017/18. PDF 100 KB
Pwrpas: Cyflwyno fersiwn derfynol o Ddatganiad Cyfrifon 2017/18 i aelodau ar gyfer cymeradwyaeth a nodi’r wybodaeth ariannol atodol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Statement of Accounts 2017/18 and Supplementary Financial Information to Statement of Accounts 2017/18, eitem 38 PDF 2 MB
- Enc. 2 for Statement of Accounts 2017/18 and Supplementary Financial Information to Statement of Accounts 2017/18, eitem 38 PDF 238 KB
- Enc. 3 Flintshire County Council Letter of Representation, eitem 38 PDF 174 KB
- Enc. 4 WAO ISA 260 presentation, eitem 38 PDF 514 KB
- Enc. 5 Supplementary Financial Information to Statement of Accounts 2017/18, eitem 38 PDF 24 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Datganiad Cyfrifon 2017/18 a'r Wybodaeth Ariannol Atodol i'r Datganiad Cyfrifon 2017/18.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Richard Harries a Mike Whiteley o Swyddfa Archwilio Cymru, Paul Vaughan, Rheolwr Cyllid Technegol dros dro a Richard Lloyd-Bithell, Cyllid Corfforaethol.
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fersiwn derfynol Datganiad Cyfrifon 2017/18 i’w gymeradwyo wedi i’r Pwyllgor Archwilio ei ystyried cyn cyfarfod y Cyngor Sir heddiw. Roedd wedi cael ei gynghori bod yr adroddiad yn cynnwys Datganiad Llywodraethu Blynyddol a oedd wedi ei ystyried yn flaenorol gan y Pwyllgor Archwilio mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2018 ac roedd angen cymeradwyaeth y Cyngor arno.
Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol mai 30 Medi oedd y dyddiad cau statudol blynyddol ar gyfer cymeradwyo’r Datganiad Cyfrifon blynyddol ar hyn o bryd , fodd bynnag y mae’r rheoliadau y mae’r Datganiad Cyfrifon yn cael eu paratoi oddi tanynt yn newid o flwyddyn ariannol 2018/19, sy’n golygu fod yn rhaid cymeradwyo’r cyfrifon erbyn 15 Medi. Paratowyd Datganiad Cyfrifon 2017/18 yn llwyddiannus erbyn y dyddiad cau cynharach hwn er mwyn paratoi ar gyfer 2018/19.
Cyfeiriodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol at adroddiad 260 Swyddfa Archwilio Cymru ar Safon Ryngwladol ar Archwilio (ISA). Dywedodd fod yn rhaid i Swyddfa Archwilio Cymru gyfathrebu materion perthnasol yn ymwneud ag archwilio'r datganiadau ariannol i’r rheiny sy’n llywodraethu’r endid (Cyngor Sir Y Fflint ar gyfer Datganiadau’r Cyngor Sir). Eglurodd bod yr adroddiad eleni ar ffurf cyflwyniad er mwyn ceisio gwella hygyrchedd, a bod copi o’r adroddiad wedi ei atodi at yr adroddiad. Parhaodd y Rheolwr Corfforaethol gan ddweud bod newidiadau a gytunwyd gyda Swyddfa Archwilio Cymru wedi eu gwneud i Ddatganiad Cyfrifon 2017/18 yn ystod yr archwiliad, a bod y newidiadau yn cael eu dangos yn atodiad 2 yr adroddiad. Eglurodd bod y newidiadau’n ymwneud â phwrpas datgelu yn unig ac nad oeddynt yn effeithio ar sefyllfa ariannol y Cyngor.
Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi adrodd bod y Datganiad Cyfrifon wedi ei baratoi i safon dda gyda phapurau gwaith cynhwysfawr wedi eu hatodi. Nodwyd rôl barhaus y Gr?p Llywodraethu Cyfrifon, sydd â throsolwg dros gynhyrchiad cyffredinol y Datganiad Cyfrifon, a’i fod wedi bod yn effeithiol am y 2 flynedd diwethaf.
Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod Llythyr Sylwadau Cyngor Sir Y Fflint at Swyddfa Archwilio Cymru wedi ei atodi i’r adroddiad a chadarnhaodd bod y wybodaeth yn y datganiadau ariannol yn wir ac yn gywir a bod yr holl wybodaeth wedi ei ddatgelu i’r archwilwyr.
Cyflwynodd Mr Richard Harries, Arweinydd Ymgysylltu Archwiliad Ariannol ar gyfer Cyngor Sir y Fflint ei hun a'i gydweithiwr sef Mike Whiteley o Swyddfa Archwilio Cymru. Rhoddodd Mr Harries gyflwyniad bras, ac yn wahanol i’r arfer, cyflwynodd adroddiad Safon Ryngwladol ar Archwilio 260 drwy gyfrwng cyflwyniad oedd yn cynnwys y prif bwyntiau canlynol:
· canlyniad cyffredinol
· Cyfrifoldebau’r Archwilydd Cyffredinol
· sefyllfa’r archwiliad a materion yn codi o’r archwiliad
· 2018-19 a’r blynyddoedd dilynol
Wrth ddod a’i gyflwyniad i ben, crynhodd Mr Harries y prif ganfyddiadau a dywedodd bod yr archwiliad wedi mynd yn dda ac nad oedd materion arwyddocaol oedd angen eu dwyn i sylw’r Cyngor. . Diolchodd i’r Rheolwr ... view the full Cofnodion text for item 38