Mater - cyfarfodydd

Capital Works - Procurement of Welsh Housing Quality Standard (WHQS) Kitchen & Bathroom Programme for Internal Works

Cyfarfod: 25/09/2018 - Cabinet (eitem 236)

236 Gwaith Cyfalaf Rheoli Asedau Tai – Rhaglen ‘Diweddaru’ Safon Ansawdd Tai Cymru pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth i gaffael contractwr i barhau i ddarparu Rhaglen Diweddaru Ystafelloedd Ymolchi a Cheginau Safon Ansawdd Tai Cymru drwy fframwaith Caffael Ychwanegol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad ar Waith Cyfalaf – Caffael Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer Rhaglen o Waith Mewnol ar Geginau ac Ystafelloedd Ymolchi oedd yn chwilio am gymeradwyaeth i gaffael contractwr i barhau i gyflawni’r rhaglen trwy’r fframwaith Caffael a Mwy.   

 

Roedd eiddo â oedd yn cwrdd â’r meini prawf Methiant Derbyniol ac roedd y tîm yn bwriadu eu hymweld a’u huwchraddio i Safon Ansawdd Tai Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       I gymeradwyo caffael contractwr newydd i gwblhau’r rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru i wella ystafelloedd ymolchi a cheginau trwy’r fframwaith Caffael a Mwy; a

 

(b)       Dirprwyo awdurdod i'r Prif Swyddog (Tai ac Asedau), mewn ymgynghoriad â Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Dai, i drafod a derbyn y cytundeb ar ôl ei gwblhau.