Mater - cyfarfodydd

School Reserve Balances Year Ending 31 March 2018

Cyfarfod: 27/09/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 17)

17 BALANSAU CRONFEYDD WRTH GEFN YSGOLION Y FLWYDDYN SY'N DOD I BEN AR 31 MAWRTH 2018 pdf icon PDF 127 KB

Pwrpas:        Rhoi adroddiad I’r aelodau ynghylch balansau diwedd blwyddyn                yr ysgolion fel yr oeddent ar 31 Mawrth 201/8

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid (Pobl ac Adnoddau) yr adroddiad blynyddol ar falensau cronfeydd wrth gefn ysgolion yn Sir y Fflint, fel ag yr oedd ar 31 Mawrth 2018. Roedd yr adroddiad hefyd wedi cael ei ystyried yn ddiweddar gan y Pwyllgor Archwilio.

 

Roedd lefel cyffredinol y cronfeydd wrth gefn wedi lleihau o 11% ers y llynedd ac roedd cynnydd o 47% yn niffyg net y cronfeydd wrth gefn gan ysgolion uwchradd wedi ei osod yn erbyn cynnydd o 15% mewn cronfeydd wrth gefn cynradd.  Er y croesawyd dyraniad hwyr o gyllid Llywodraeth Cymru, roedd hyn yn cuddio’r duedd sylfaenol ar y sefyllfa alldro. Roedd cyllidebau ysgolion uwchradd o dan bwysau sylweddol, ac roedd gan ysgolion gyda balansau cadarnhaol lefel isel o arian wrth gefn a gododd bryderon am gadernid ariannol. Roedd nifer o ffactorau’n cyfrannu, yn cynnwys niferoedd o ddisgyblion, staffio ac ysgolion yn gorfod delio â chost y cynnydd chwyddiannol oherwydd mesurau caledi parhaus. Roedd balansau cronfeydd wrth gefn yn y sector cynradd yn ymddangos yn well, fodd bynnag byddai newidiadau i ddemograffeg yn arwain at ailddosbarthu cyllid rhwng y sectorau cynradd ac uwchradd. Byddai bwletin gan Lywodraeth Cymru yn adrodd ar y sefyllfa genedlaethol yn cael ei ddosbarthu. Roedd timoedd cyfrifeg y Cyngor yn gweithio gydag ysgolion i ddatblygu cynlluniau tair blynedd i gynorthwyo gyda rheoli'r gyllideb. Roedd arf meincnodi cenedlaethol a ddefnyddir gan ysgolion uwchradd yn cael ei ddatblygu ar gyfer y sector cynradd er mwyn cynorthwyo i nodi arbedion ar ffioedd.

 

Roedd y Cadeirydd yn ymwybodol bod rhai Aelodau’n dymuno gwneud ymholiadau am ysgolion penodol, ac er mwyn gwneud hynny bydd angen trafodaeth fwy cyfrinachol. Cynigodd y Cynghorydd Mackie y dylid gwahardd y wasg a’r cyhoedd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985. Cafodd hyn ei eilio a’i gefnogi gan y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan fod yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried yn wybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).