Mater - cyfarfodydd

Environmental Enforcement

Cyfarfod: 17/07/2018 - Cabinet (eitem 218)

218 Gorfodi Amgylcheddol pdf icon PDF 81 KB

Pwrpas:        I geisio cymeradwyaeth y Cabinet i orffen y trefniant gyda Grwp Gwasanaethau Kingdom i ddarparu gweithgareddau gorfodi amgylcheddol ar lefel isel yn y Sir cyn i'r trefniadau newydd ar gyfer y gwasanaeth ddod i rym ar 1 Ionawr 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad yngl?n â Gorfodi Amgylcheddol, a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i hysbysu Kingdom y byddai’r trefniadau presennol yn dod i ben. Byddai adroddiad pellach yn dod yn ddiweddarach yngl?n â’r dewisiadau o ran darparu gwasanaethau gorfodi yn y Sir.

 

            Yn sgil twf ymgyrch gyhoeddusrwydd yn erbyn Kingdom roedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wedi gofyn am adroddiad ar y sefyllfa ddiweddaraf, a chyflwynwyd yr adroddiad hwnnw mewn cyfarfod yn ddiweddar. Argymhellodd y Pwyllgor y dylid dod â'r contract â Kingdom i ben, ac y dylid cyflawni’r holl swyddogaethau gorfodi yn y dyfodol drwy ddarparu’r gwasanaeth yn uniongyrchol.

 

            Er y talwyd nifer helaeth o rybuddion cosb benodedig a gyflwynodd Kingdom ar ran y Cyngor heb wrthwynebiad, bu sawl achos hysbys lle’r oedd rhesymau dadleuol dros roi’r tocynnau.  Roedd yr achosion prin hynny’n tanseilio enw da’r cwmni a’r Cyngor fel ei gilydd.          

 

Esboniodd Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd y cyflwynid adroddiad i'r Cabinet ym mis Medi. Dywedodd y Prif Weithredwr y gellid ymchwilio i wasanaeth wedi’i rannu ag awdurdodau lleol eraill oedd mewn sefyllfa gyffelyb. Roedd hi’n bwysig dal ati â chyfundrefn lem, a dylid gadael i ba bynnag wasanaeth oedd yn cyflawni’r swyddogaeth wneud hynny’n ddilyffethair. Cefnogodd y Cynghorydd Attridge hynny, gan ddweud ei bod yn amlwg cymaint oedd canol y trefi wedi gwella ers mabwysiadu dull gorfodi llym. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Shotton y byddai angen mynd ati ar unwaith i gydweithio ag awdurdodau cyfagos wrth ymchwilio i wasanaeth wedi’i rannu a fyddai'n tawelu pryderon y cyhoedd ac yn ystyried sylwadau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar yr Amgylchedd, ac fe gefnogwyd hynny.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cefnogi argymhelliad y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar yr Amgylchedd y dylid terfynu’r cytundeb presennol â Kingdom ar gyfer darparu gwasanaeth gorfodi amgylcheddol lefel isel, unwaith y gellir sefydlu dull gwahanol o gyflawni’r swyddogaeth; a

 

 (b)      Bod adroddiad cwmpasu’n dod gerbron y Cabinet fis Medi 2018 yn cynnwys manylion am y dull a gynigir o ddarparu’r gwasanaeth, wedi i swyddogion asesu’r holl ddewisiadau a chynhyrchu model busnes cynaliadwy. Dylai’r adroddiad hefyd gadarnhau’r amserlen ar gyfer gweithredu’r dull newydd a phennu dyddiad ar gyfer dod â'r cytundeb presennol i ben.