Mater - cyfarfodydd

Revenue consequences of major capital programme investments

Cyfarfod: 12/07/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 34)

34 Canlyniadau refeniw buddsoddiadau mawr mewn rhaglenni cyfalaf pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:  Derbyn adroddiad ar y goblygiadau Refeniw yn sgil buddsoddiadau mawr ar y rhaglen gyfalaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a darparodd gyflwyniad ar ganlyniadau refeniw buddsoddiadau mawr y rhaglen gyfalaf.   Roedd hyn yn ategu at y model a groesawyd mewn cyfarfod blaenorol.  Y prif gynlluniau buddsoddi a nodwyd yn y cyflwyniad oedd:

 

  • effeithiau gwariant cyfalaf ar refeniw
  • Cynllun 1 – Cartref Gofal Marleyfield
  • Cynllun 2 – Cartref Gofal Dydd Glanrafon 
  • Cynllun 3- Theatr Clwyd
  • Cynllun 4 – NWRWTP (Parc Adfer)
  • Cynllun 5- adleoli i Unity House, Ewlo.
  • Cynllun 6 – Rhaglen Buddsoddiadau Ysgolion – Ysgol Penyffordd

         Rhaglen Buddsoddiadau Ysgolion - Ysgol Uwchradd Cei Connah

  • Estyniad ac ailfodelu ysgol  
  • Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif
  • Rhaglen Buddsoddiadau Ysgolion

 

Nododd y Cynghorydd Richard Jones bod angen penderfynu ar effaith y rhaglenni cyfalaf ac awgrymodd y dylid cynnal asesiad o effaith i ddangos y buddion.   Cydnabu’r Prif Weithredwr y pwynt a wnaed.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones hefyd at gost dymchwel Neuadd y Sir – camau 3-4 a gofynnodd sut y byddai hyn yn cael ei ariannu.

 

Siaradodd y Cynghorydd Patrick Heesom am werth pensaernïol Neuadd y Sir a nododd y dylid amddiffyn yr adeilad.   Nododd bod yr Wyddgrug yn leoliad da ac yr hoffai gadw’r gwasanaethau yn Neuadd y Sir.   Pwysleisiodd y Prif Weithredwr bod symud i Unity House, Ewlo yn adleoliad rhannol gan nad oedd gan yr adeilad ddigon o le ar gyfer yr holl staff na'r holl wasanaethau sy'n cael eu darparu.  Eglurodd y byddai trafodaethau yn cael eu cynnal yn hirdymor o ran datblygu safle campws Neuadd y Sir, yr Wyddgrug.   Roedd campws Neuadd y Sir yn hen, yn ddrud i’w gynnal ac nid oedd yn addas i bwrpas ar gyfer gofod swyddfa gyfoes bellach.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi a chroesawu’r adroddiad.