Mater - cyfarfodydd

Taxi and Private Hire Vehicle Licensing in Wales

Cyfarfod: 28/06/2018 - Pwyllgor Trwyddedu (eitem 8)

8 Trwyddedu Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat yng Nghymru pdf icon PDF 79 KB

Rhoi gwybod i Aelodau am gyfraith arfaethedig newydd ar gyfer Cymru.

Cofnodion:

            Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu adroddiad i roi gwybod am y newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth Cymru mewn perthynas â thrwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yng Nghymru.

 

            Yn dilyn rhoi darpariaethau perthnasol Deddf Cymru 2017 mewn grym, byddai trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yn fater o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.  O dan y setliad datganoledig newydd hwn yr oedd Llywodraeth Cymru eto wedi ystyried y cynigion ar gyfer y fframwaith i drwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat a gyflwynwyd gan Gomisiwn y Gyfraith, er mwyn rhoi trefniant newydd ar waith ar gyfer Cymru.  Roedd manylion y trefniadau arfaethedig wedi’u cynnwys yn adran 1.03 yn yr adroddiad.

 

            I gloi, dywedodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu bod LlC yn ystyried y byddai’r rhan fwyaf o’r argymhellion a gyflwynwyd gan Gomisiwn y Gyfraith, pe baent yn cael eu cyflwyno, yn gwneud y ddeddfwriaeth ar gyfer trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yn fwy eglur a syml.  Lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar 12 Mehefin 2017 ac ar ôl casglu canlyniadau’r ymgynghoriad, roedd LlC wedi bwriadu cyhoeddi Papur Gwyn yn haf 2018. Roedd manylion y cynigion a oedd yn y Papur Gwyn yn adran 1.06 yn yr adroddiad.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Dave Cox a oedd LlC wedi cyhoeddi’r Papur Gwyn.  Atebodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu nad oedd eto wedi’i gyhoeddi ond y byddai’r Aelodau’n cael gwybod am gynnydd mewn perthynas ag o.  Byddai angen i’r Tîm Trwyddedu gyflwyno unrhyw newidiadau i’r ddeddfwriaeth.

 

            Gwnaeth y Cadeirydd sylw ar y cynigion i holl weithwyr cwmnïau tacsis gael gwiriad sylfaenol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.  Croesawai Arweinydd y Tîm Trwyddedu’r cynnig hwn gan fod nifer o weithwyr yn trin gwybodaeth sensitif am aelodau’r cyhoedd ac roedd yn bwysig sicrhau diogelwch y cyhoedd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.