Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme (Education & Youth)

Cyfarfod: 20/12/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 32)

32 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg ieuenctid & Addysg

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol er mwyn ei hystyried. Yn ystod y drafodaeth, cytunodd y Pwyllgor i wneud y newidiadau canlynol i'r Rhaglen:-

 

  • y dylai adroddiad Rhaglen Ysgolion a Chyn Ysgol Iachus gael eu symud yn ôl i’r cyfarfod a drefnwyd ar 31 Ionawr i 21 Mawrth;

 

  • bod yr adroddiad ar Gludiant Ôl-16 i’w gyflwyno i’r cyfarfod o'r Pwyllgor a gynhelir ar 16 Mai; a

 

  • bod cyfarfod ar y cyd gyda’r Pwyllgor Craffu a Throsolwg Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cael ei drefnu hefyd yn ystod mis Mai 2019

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd; a

 

 (b)      Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.