Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme (Education & Youth)
Cyfarfod: 20/12/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 32)
32 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 72 KB
Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg ieuenctid & Addysg
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol er mwyn ei hystyried. Yn ystod y drafodaeth, cytunodd y Pwyllgor i wneud y newidiadau canlynol i'r Rhaglen:-
- y dylai adroddiad Rhaglen Ysgolion a Chyn Ysgol Iachus gael eu symud yn ôl i’r cyfarfod a drefnwyd ar 31 Ionawr i 21 Mawrth;
- bod yr adroddiad ar Gludiant Ôl-16 i’w gyflwyno i’r cyfarfod o'r Pwyllgor a gynhelir ar 16 Mai; a
- bod cyfarfod ar y cyd gyda’r Pwyllgor Craffu a Throsolwg Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cael ei drefnu hefyd yn ystod mis Mai 2019
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd; a
(b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.